Cost of Living Support Icon

Treftadaeth 

Gwybodaeth am Ardaloedd Cadwraeth, Adeiladau Rhestredig, Trysorau Sirol a Chofebion Rhestredig ym Mro Morgannwg.  

 

Listed_Buildings_Inventory

Adeiladau Rhestredig

Ar hyn o bryd mae tua 740 adeilad a strwythur wedi’u rhestru’n rhai sydd o diddordeb pensaernïol a hanesyddol ym Mro Morgannwg.

 

Cadw sy’n gyfrifol am adeiladau rhestredig.  

  

Addasiadau i Adeiladau Rhestredig

Bydd angen Cydsyniad Adeilad Rhestredig ar gyfer unrhyw waith a fydd yn effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig, boed yn fewnol, allanol, strwythurol neu addurnol, gan gynnwys unrhyw waith i wrthrych neu strwythur wedi’i atodi at yr adeilad neu o fewn cwrtil yr adeilad (yn ei diroedd, ei ardd, ei dir caeedig ac ati). <0} Mae hyn ar wahân i unrhyw ofyniad am Ganiatâd Cynllunio neu i gael cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.

  

Mae gwaith anawdurdodedig i adeilad rhestredig yn ddifrifol iawn yn ôl y gyfraith a gallai arwain at gamau erlyn. Gellir cael dirwyon o hyd at £20,000 a / neu 12 mis yn y carchar wedi collfarn ddiannod.

 

Gallwch wneud cais am Gydsyniad Adeilad Rhestredig ar y dudalen Gwneud Cais Cynllunio.

 

  

Trysorau Sirol

Yn ogystal ag Adeiladau Rhestredig mae nifer o asedau hanesyddol rhestredig lleol y'u gelwir yn Drysorau Sirol.

 

Gellir chwilio am y rhain fesul ardal isod:    

 

Ardaloedd Cadwraeth

Mae Ardaloedd Cadwraeth yn ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig, y mae’n ddymunol cadw neu wella eu cymeriad neu eu golwg.

 

Ar hyn o bryd mae 39 Ardal Gadwraeth ym Mro Morgannwg. Maent yn amrywio’n fawr o ran cymeriad o ganlyniad i’r cymysgedd amrywiol o setliadau sydd wedi eu canfod yn y Fro; o bentrefi bach mewn pentrefi fel Sain Siorys-ar-Elái, i dref farchnad y Bont-faen, a chanol trefol Penarth.

 

  

Mae cyfarwyddyd Erthygl 4 ar waith ar gyfer eiddo penodol ym Mhenarth sy’n cyfyngu ar waith y gellir ei wneud heb Ganiatâd Cynllunio, megis adnewyddu ffenestri a waliau terfyn. Cysylltwch â’r Adran Gynllunio am fwy o wybodaeth (01446 704681). Mae mwy o fanylion ar gael ar y tudalen ceisiau cynllunio yn yr adran  “Oes angen Caniatâd Cynllunio arnaf?”  - Rhestr o Eiddo Erthygl 4 ym Mhenarth

 

Cofebion Rhestredig

Mae rhai cofebion yn Gofebion Rhestredig dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, cydnabyddir bod y safleoedd hyn o bwys cenedlaethol ac wedi'u diogelu gan y gyfraith.

 

Cadw sy’n rheoli unrhyw waith sy’n effeithio ar Heneb neu ei hardal ddynodedig yng Nghymru, ac mae angen cyflwyno ceisiadau am Gydsyniad Heneb Restredig ar gyfer y gwaith hwnnw.

 

Mae mwy na 100 o Gofebion Rhestredig yn y Fro.

 

Pan fo adeilad neu safle yn Gofeb Restredig ac yn Adeilad Rhestredig, mae statws y strwythur fel cofeb yn cael y flaenoriaeth.