Cost of Living Support Icon

Ymgynghori

Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud a chymryd rhan ym mhenderfyniadau'r Cyngor a materion lleol ym Mro Morgannwg. Rydym eisiau clywed eich barn fel bod ein penderfyniadau am y lleoedd rydych chi'n byw ac yn gweithio ynddynt ac yn ymweld â nhw yn adlewyrchu eich barn.

 

Ymgynghoriadau cyfredol

Gallwch ddod o hyd i'n hymgynghoriadau presennol ar ein platfform cyfranogiad cyhoeddus, Cymryd Rhan y Fro.

 

Gweler ymgynghoriadau cyfredol ar Cymryd Rhan y Fro

Ymgynghoriadau sydd wedi dod i ben

Edrychwch ar restr o ymgynghoriadau sydd wedi dod i ben dros y 12 mis diwethaf. 

 

 

Gweler ymgynghoriadau sydd wedi dod i ben

 

Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus 

Mae ein Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd yn esbonio sut y byddwn yn annog ac yn hwyluso cyfranogiad y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau ym Mro Morgannwg.

 

Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus 

 

Adolygiad o gerfluniau, henebion, enwau strydoedd ac enwau adeiladau - ac awgrymiadau ar gyfer coffáu yn y dyfodol

Mae’r Cyngor wrthi’n rhagweithiol yn adolygu’r holl gerfluniau a’r coffadwriaethau, gan gynnwys enwau strydoedd, adeiladau cyhoeddus a phlaciau, ym Mro Morgannwg. Bydd y gwaith hwn yn digwydd er mwyn sicrhau bod cerfluniau a choffadwriaethau ar dir cyhoeddus, yn ogystal ag enwau strydoedd ac adeiladau i’w hadolygu, yn cynrychioli gwerthoedd pobl leol a rhai Cyngor modern a chynhwysol. Os ydych wedi gweld coffadwriaeth rydych chi’n credu y dylai gael ei hadolygu er mwyn sicrhau ei bod yn briodol, llenwch ffurflen ar-lein. Sicrhewch eich bod yn cynnwys lleoliad a rheswm dros adolygu.

 

Cyflwyno Coffadwriarth i'w Hadolygu 

 

Am wybod mwy? 

Os am ragor o wybodaeth am ymgynghori ym Mro Morgannwg yna e-bostiwch