Cost of Living Support Icon

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn rhoi hawl mynediad i aelodau'r cyhoedd dros dir sy'n eiddo preifat, gan ddarparu mynediad iddynt i gefn gwlad y gallant ei fwynhau.

 

Rhennir y cyfrifoldeb am lwybrau yng nghefn gwlad rhwng tirfeddianwyr a'r Cyngor, ond

mae defnydd cyfrifol o gefn gwlad gan y cyhoedd yr un mor bwysig. Ceir gwybodaeth i ddefnyddwyr yn y Codau Cefn Gwlad.Walking-through-autumn-leaves

 

Mae rôl y Cyngor, fel yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer yr ardal, yn cynnwys cynnal a chadw arwynebau llwybrau, cynnal pontydd, mapio llwybrau, gweinyddu newidiadau a chymryd camau gorfodi i ddatrys rhwystrau. Mae rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau'r Cyngor ar gael o fewn canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Mae cyfrifoldebau tirfeddianwyr yn cynnwys cynnal gatiau a chamfeydd (gan gydgysylltu â'r Cyngor wrth wneud hynny), torri llystyfiant sy'n hongian drosodd, adfer llwybrau trwy dir aredig neu gnydau a sicrhau nad yw rhai anifeiliaid (e.e. bridiau penodol o deirw) yn cael eu cadw mewn caeau y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt.

 valeways-logo

Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio gyda grwpiau amrywiol sy'n cynrychioli buddiannau defnyddwyr a thirfeddianwyr, megis Cymdeithas y Crwydrwyr, Cymdeithas Ceffylau Prydain a Valeways. Mae Valeways yn gorff elusennol sy'n gweithio ar y cyd â'r Cyngor i gydlynu gwirfoddolwyr ac yn helpu i wella hawliau tramwy'r Sir, yn ogystal â pharatoi taflenni a gwybodaeth arall am deithiau cerdded yn ardal y Fro.

 

 

 

 

 

Mapio Gwe

Gellir lleoli pob llwybr cyhoeddus yn hawdd gan ddefnyddio nodwedd mapio gwe Bro Morgannwg. Teipiwch eich cod post yn y blwch isod i ddefnyddio'r nodwedd mapio.

 

Mae My Vale hefyd yn cynnwys nodweddion eraill megis lleoliadau cyfleusterau cymunedol, gwybodaeth gynllunio a ffiniau wardiau.