Nid yw caniatâd cynllunio yn newid yr hawl dramwy sy’n croesi’r tir dan sylw na’n rhoi awdurdod i’w rwystro. Os oes angen gwyro neu ddiddymu llwybr at ddibenion datblygu, dylid gwneud cais am orchymyn llwybr cyhoeddus dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Er mwyn i’r Cyngor greu gorchymyn, rhaid bod caniatâd cynllunio wedi ei ddyfarnu a rhaid bod y cynlluniau yn anghydnaws â chadw’r hawl dramwy. Er nad yw’n bosibl i’r Cyngor greu gorchymyn cyn dyfarnu caniatâd cynllunio, anogir datblygwyr i gysylltu â’r tîm hawliau tramwy cyn gynted â phosibl os yw’n debygol y bydd effaith ar yr hawl dramwy.
Gall gwyro llwybr cyhoeddus gymryd oddeutu 9 mis os nad oes unrhyw wrthwynebiad neu’n sylweddol hwy os derbynnir gwrthwynebiadau. Efallai y bydd angen gwneud cais i gau’r llwybrau dan sylw dros dro tra bod y gwyriad ar waith, er enghraifft er mwyn hwyluso adeiladu cam datblygu nad yw’n ymyrryd yn uniongyrchol â’r llwybr gyhoeddus.
Nid yw’n briodol cau dros dro er mwyn galluogi adeiladu strwythurau parhaol dros lwybr gan obeithio rhagweld gwyriad ffafriol a bydd y Cyngor yn cymryd camau os yw hyn yn digwydd cyn bod gorchymyn yn dirwyn i ben.
Mae gwybodaeth bellach ar gael o fewn Pecyn Ymgeisio Gorchmynion Llwybrau Cyhoeddus y Cyngor.