Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Help a chymorth os ydych yn cael trafferth talu eich biliau oherwydd costau byw cynyddol.
Mae Cyngor ar Bopeth Caerdydd a’r Fro yn cynnal sesiynau cyngor costau byw galw heibio i drigolion yn 119 Broad Street, Y Barri, bob Dydd Llun a Dydd Iau rhwng 4pm a 6pm. Nid oes angen apwyntiad.
Dewch o hyd i wybodaeth am grantiau a budd-daliadau sydd ar gael i chi fel Gostyngiad y Dreth Gyngor neu Gredyd Pensiwn.
Cyngor ar wneud eich cartref yn ynni-effeithlon, gwybodaeth am grantiau a budd-daliadau, fel arbed ar eich biliau dŵr.
Gwasanaethau a chymorth sy'n helpu gyda chostau bwyd. Gwybodaeth am dalebau bwyd a banciau bwyd.
Gwybodaeth am gymorth gyda chostau ysgol, costau gofal plant a chymorth ariannol i rieni newydd.
Adnoddau i'ch helpu i wella eich iechyd a'ch lles fel grwpiau cymunedol lleol, cymorth iechyd meddwl a rhaglenni ymarfer corff.
Help i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith a chyngor gyrfaoedd.
Help gyda thai a chymorth os ydych yn ddigartref ar hyn o bryd neu mewn perygl o ddod yn ddigartref.
Cymorth ac adnoddau i bobl hŷn ym Mro Morgannwg.
Cyngor ac arweiniad i fusnesau a gwybodaeth am gyllid a chyfleoedd partneriaeth ym Mro Morgannwg a thu hwnt.
Mae siarcod benthyg arian yn benthyca arian ac yn codi llog ar y benthyciad heb yr awdurdod cyfreithiol. Maent yn gweithredu yn ein cymunedau gan gymryd mantais ar bobl sy’n agored i niwed yn aml.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei nabod yn gysylltiedig â benthyca arian anghyfreithlon, cyfaddef popeth yw’r peth iawn i wneud.
Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru
Mae teuluoedd ledled Cymru yn teimlo'r straen ar gyllidebau eu cartrefi oherwydd costau byw cynyddol, gan wneud cymorth ychwanegol yn bwysicach nag erioed.
Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y gallent fod yn gymwys i gael budd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt. Os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, cysylltwch â llinell gymorth am ddim Advicelink Cymru:
Advicelink Cymru
Browser does not support script.