Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae eich tîm datblygu economaidd yma i’ch cyfeirio at gyllid priodol a chyfleoedd i fuddsoddi, adleoli neu dyfu eich busnes ym Mro Morgannwg.
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y dudalen we hon. Caiff ei diweddaru'n rheolaidd i gynnwys y cyllid a'r cynlluniau diweddaraf ar gyfer busnesau.
Mae Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro yn fenter adfywio a datblygu economaidd a arweinir gan Gyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth ag amryw o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
Diben y fwrsariaeth yw hyrwyddo amodau a fydd yn helpu entrepreneuriaid i weithredu eu syniad busnes. Gall hyn gynnwys rhoi cyngor a chymorth arbenigol i ddatblygu syniad busnes, darparu'r offer neu'r adnoddau angenrheidiol i ddechrau busnes a helpu gyda chostau lleoliad busnes.
Darganfold mwy
Bydd y Grant Gwella Masnachol yn darparu cymorth ar gyfer y gwelliannau a'r gwaith cynnal a chadw i wella gwedd flaen eiddo masnachol a manwerthu ym Mro Morgannwg a gwella ansawdd yr ardal fasnachu fewnol gan gynnwys hygyrchedd.
Ydych chi'n chwilio am eiddo masnachol gwag ym Mro Morgannwg ar gyfer eich busnes? Mae gan ein cronfa ddata eiddo y rhestrau diweddaraf o dir ac eiddo sydd ar gael ar hyn o bryd ym Mro Morgannwg.
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn helpu busnesau lleol mewn sawl ffordd. Un o’r rhain yw drwy gynnig unedau gweithdy ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach.
Bydd y Cyngor yn parhau i weithio’n galed i hyrwyddo Bro Morgannwg mewn partneriaeth â CCRCD fel lleoliad deniadol ar gyfer buddsoddiadau mewnol ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol.
Lawrlwythch y llyfryn Buddsoddi yn y Fro
Mae’r Barri’n unigryw ym Mhrydain. ‘Does unman arall yn cynnig hanes diwydiannol rhyngwladol a glan môr euraid ochr wrth ochr.
Cliciwch ar y llyfryn i ddysgu mwy am y Barri o’r gorffennol a'r presennol.
Lawrlwytho Stori Y Barri
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ar ôl ymweld â’r safle, ffoniwch neu e-bostiwch y tîm datblygu economaidd am gymorth.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor.
Hysbysiad Preifatrwydd y Wefan