Cost of Living Support Icon

 

Cyllid Busnes

Gall cyllid i fusnesau a grwpiau cymunedol ddod o amrywiaeth eang o ffynonellau. Defnyddiwch y dolenni a’r adnoddau ar y dudalen hon i ddod o hyd i’r cymorth ariannol priodol ar gyfer eich menter.   

 

Gall cyllid ar gyfer datblygu busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol eich helpu i roi eich syniad ar waith, helpu eich sefydliad i dyfu neu alluogi rhaglenni a pholisïau i gael eu gweithredu ar gyfer datblygiad cymunedol a chynaliadwyedd.   Er nad yw Bro Morgannwg yn cefnogi nac yn argymell unrhyw ffynhonnell gyllid benodol, rydym wedi casglu dolenni i nifer o'r ffynonellau cyllid mwy cyffredin i'ch helpu.  

Funding (Welsh)

 

Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro

Mae Cynllun Bwrsariaeth Busnes Newydd y Fro yn fenter adfywio a datblygu economaidd a arweinir gan Gyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth ag amryw o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.  


Diben y fwrsariaeth yw hyrwyddo amodau a fydd yn helpu entrepreneuriaid i weithredu eu syniad busnes.  Gall hyn gynnwys rhoi cyngor a chymorth arbenigol i ddatblygu syniad busnes, darparu'r offer neu'r adnoddau angenrheidiol i ddechrau busnes a helpu gyda chostau lleoliad busnes. 


Am fwy o wybodaeth.

 

Cronfa Grant Datblygu Busnes y Fro

Mae Cronfa Datblygu Busnes y Fro yn cynnig darparu cymorth ariannol i fusnesau sefydledig ym Mro Morgannwg, ar draws pob sector diwydiant. 
Bydd grantiau o bob maint yn cael eu cynnig am 50% o arian grant, 50% o arian cyfatebol ar gyfer prosiectau.

 

Bydd y grantiau hyn ar gael i fusnesau sefydledig sydd wedi bod yn masnachu am 12 mis neu fwy. 

  

Am fwy o wybodaeth.

 

Gronfa Ffyniant Gyffredin

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dyrannu tua £4.6 miliwn i fuddsoddi yn y thema Cefnogi Busnesau dros dair blynedd o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG). Ariennir y CFfG tan fis Mawrth 2025.

 

Am fwy o wybodaeth.

Er nad yw Bro Morgannwg yn cymeradwyo nac yn argymell unrhyw ffynhonnell ariannu benodol, rydym wedi casglu dolenni at sawl un o'r adnoddau ariannu mwy cyffredin i’ch helpu i chwilio

 

  • Canfyddwr Cyllid
    Defnyddiwch Ganfyddwr Cyllid Busnes Cymru i ddod o hyd i opsiynau cyllid sy’n berthnasol i’ch busnes.
  • Benthyciadau Dechrau Busnes  
    Dysgwch am fenthyciadau sydd ar gael i entrepreneuriaid sy’n dechrau busnes yng Nghymru trwy’r Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes
  • Banc Datblygu Cymru 
    Gan helpu busnesau i gael y benthyciadau a'r buddsoddiadau y mae eu hangen arnynt i gychwyn, cryfhau a thyfu. 
  • Cynlluniau Cyllid Gwledig 
    Cyllid i ddatblygu projectau cymunedol, eich busnes neu fentrau eraill yn ardaloedd gwledig y Fro.  
  • Cyllid ar gyfer y Celfyddydau 
    Grantiau i gefnogi sefydliadau celfyddydol sydd wedi’u lleoli ac sy’n gweithio’n bennaf yng Nghymru.   Benthyciadau Dechrau Busnes 
  • Bancio Robert Owen  
     Cyllid a benthyciadau i fusnesau a mentrau cymunedol. 
  • Grant Cyfleusterau Cymunedol 
    Grantiau cyfalaf i wella cyfleusterau cymunedol sy’n atal neu sy’n mynd i’r afael â thlodi a’i effeithiau.
  • Purple Shoots 
    Dysgwch fwy am fenthyciadau busnesau bach i dalu am gostau dechrau a gwasanaethau mentora. 
  • Dod o hyd i Grant  
    Mae dod o hyd i grant yn wasanaeth sy'n eich galluogi i chwilio drwy grantiau'r llywodraeth.

 

 

Tourism focussed: 

  • Cronfa Buddsoddi Twristiaeth Cymru (WTIF)
    Mae'r gronfa  hon yn dod â chyllid masnachol a grant at ei gilydd mewn un pecyn cyfunol o gymorth ariannol i ddarparu buddsoddiad cyfalaf i'r sector.

     

  • Cynllun grant Digwyddiadau Bro Morgannwg 

    Cyllid grant i gefnogi digwyddiadau ym Mro Morgannwg. 

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am grantiau a chymorth cymunedol, ewch i: Cymunedau Creadigol

 

Nid yw’r dolenni cyllid a ddarperir yma yn gynhwysol, fe’u darperir er cyfeiriad yn unig ac nid ydym yn ceisio cefnogi unrhyw ddarparwyr penodol.   Mae nifer o ffynonellau eraill sy’n bodoli sy’n cynrychioli dewis da ar gyfer eich menter, er enghraifft, benthyciadau gan fanciau a chyllido torfol.  

Cysylltu â Ni 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ar ôl ymweld â’r safle, ffoniwch neu e-bostiwch y tîm datblygu economaidd am gymorth.