Cost of Living Support Icon

Ymwadiad

Ymwadiadau, cwcis, hysbysiadau preifatrwydd a hawlfraint ar gyfer www.valeofglamorgan.gov.uk

 

Fel arweiniad yn unig y bwriadwyd cynnwys y wefan hon ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymwrthod â phob gwarant ymhlyg o ran cywirdeb yr wybodaeth a ddarperir, gan gynnwys gwerthadwyedd ac addasrwydd ar gyfer diben neilltuol yr holl gynnyrch neu’r gwasanaethau y cyfeirir atynt.

  

Ni fydd y Cyngor o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golledion neu iawn ac yn benodol (ond heb wneud drwg i gyffredinolrwydd y blaenorol) ni fydd y cyngor yn atebol am unrhyw iawn, golli elw neu refeniw arbennig, anuniongyrchol, ôl-ddilynol neu ddamweiniol sy’n deillio o’r wefan hon neu sy’n gysylltiedig â hi neu’r wybodaeth a gynhwysir neu y cyfeirir ati mewn unrhyw fodd.

 

Hawlfraint

Mae pob hawlfraint yn nyluniad, testun, deunydd graffeg a deunyddiau eraill ar ein gwefan, a’r dewis a’r trefniant ohonynt yn perthyn i Gyngor Bro Morgannwg neu drydydd parti.

 

Rhoddir caniatâd i gopïo’n electronig ac argraffu copïau caled o rannau o’n gwefan ar gyfer defnydd preifat neu addysgiadol yn unig (o fewn ystafell ddosbarth), ar yr amod nad yw’r deunydd yn cael ei newid, ac y cydnabyddir Cyngor Bro Morgannwg fel perchennog yr hawlfraint. 

 

Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o gynnwys ein gwefan (gan gynnwys atgynhyrchu at bwrpasau na nodir uchod, newid, addasu, dosbarthu ac ailargraffu) heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Cysylltwch â’r Adran Gyfathrebu i wneud cais am ganiatâd i yn unol â’r telerau uchod. 

 

Preifatrwydd a Chwcis

Pan fo rhywun yn ymweld â'r wefan www.bromorgannwg.gov.uk/, rydyn ni'n casglu gwybodaeth mewngofnodi safonol gwefannau a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn canfod pethau fel nifer yr ymwelwyr ar wahanol adrannau'r wefan. Rydyn ni'n casglu'r wybodaeth mewn ffordd nad sy'n adnabod neb. Nid ydyn ni'n gwneud unrhyw ymgais i ddod o hyd i nodweddion adnabod ymwelwyr â'n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata sy'n cael ei gasglu o'r wefan hon â gwybodaeth sy'n adnabod unigolion o unrhyw ffynhonell. Os ydyn ni'n dymuno casglu gwybodaeth sy'n adnabod unigolion trwy'n gwefan, byddwn ni'n hollol dryloyw am hyn. Byddwn ni'n nodi'n eglur pryd y byddwn ni'n casglu gwybodaeth bersonol ac yn esbonio'r hyn rydyn ni am ei wneud â hi.

 

Hysbysiad Preifatrwydd

 

 

Defnydd cwcis gan Gyngor Bro Morgannwg

Ffeiliau testun bychain ydy cwcis sy'n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych chi'n ymweld â nhw. Defnyddir nhw'n gyffredin i wneud i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan.

 

Mae'r tabl isod yn egluro pa gwcis rydyn ni'n eu defnyddio a pham.

 

cookies
Cwci EnwPwrpas
Coronafeirws Olrhain, profi, amddiffyn

Coronafeirws: Olrhain, profi, amddiffyn rhybudd preifatrwydd

Google Analytics _utma

_utmz

_baga

 

Casglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio'n  gwefan. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth i goladu adroddiadau ac i'n helpu ni i wella'r wefan. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddi-enw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â'r wefan, o ble y daeth yr ymwelwyr a'r tudalennau y gwnaethon nhw ymweld â nhw. Google Privacy.

Derbyn cwcis ar wefan Cyngor Bro Morgannwg CookiesAccepted Cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn defnydd cwcis ar wefan Cyngor Bro Morgannwg
MyVale

ASP.NET_SessionId

atMyCouncil

astun

BIGipServerdunlin_pool

atLocation

astun:currentLocation

astun:mapSource

astun:previousLocation

astun:mapView

astun:lyrs_ish_ValeOfGlamorgan_AllMaps

astun:baseMap

astun:vLyrs_ish_ValeOfglamorgan_AllMaps

astun:layerPanelOpenGroups

Galluogi'r adnodd mapio ar adran MyVale y wefan.
eCitizen JSESSIONID
UNIQUEREQID
Cwci sesiwn a ddefnyddir i sicrhau bod y sesiwn we gywir yn cael ei defnyddio. Mae angen y cwci hwn i eDdinesydd weithio.
Taliadau eforms_return1
eforms_return2
anite_eforms_session
anite_eforms_session_hash
anite_eforms_session_mode
EForm Options
EForm LIMIT TEST
BIGipServerwww_http_pool
eforms_origin1

Mae cwcis yn hanfodol i weithredu’r system daliadau. Fe’u defnyddir i gadw trafodion y cwsmer yn y fasged siopa.

 

Os dewiswch analluogi cwcis yn eich porwr ni fydd y wefan daliadau’n gweithio am na allwn gadw eitemau yn y fasged siopa.

 

 

Y Blynyddoedd Cynnar

ASP.NET_SessionId
Tribal.EYO
CELanguageCookie
CETestCookie
PESearchCookie
PECompareCookie
PELanguageCookie
PETestCookie
theme
lang
USER_ROLES
EnrolFormsAuth
Tribal.SAM

Mae cwcis yn hanfodol i weithredu’r system Blynyddoedd Cynnar.

 

Fe’u defnyddir i awdurdodi.

 

Fe’u defnyddir i gadw rhifau adnabod Darparwyr a ddychwelyd mewn chwiliadau a’u dewis i’w cynnwys yn y Fasged / wrth Argraffu.

 

Fe’u defnyddir i gadw rhifau adnabod Darparwyr i’r swyddogaeth gymharu.

 

Storio iaith ddewis y defnyddiwr.

Fe’u defnyddir i storio thema ddewis yn y Porthol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae mwyafrif porwyr y we'n caniatáu rhywfaint o reolaeth dros gwcis trwy fframwaith y porwr. I ganfod mwy am gwcis, gan gynnwys pa rai sydd wedi eu gosod a sut i'w rheoli a'u dileu nhw, ewch i:

 

www.allaboutcookies.org

 

 

I ddewis peidio á chael eich tracio gan Google Analytics ar unrhyw wefan, ewch i:

 

Optio allan o tracio Google Analytics 

   

 

Cwcis YouTube

Rydyn ni'n mewnosod fideos o'n sianel fideo YouTube swyddogol gan ddefnyddio uwch-osodiad preifatrwydd YouTube. Gall y gosodiad hwn roi cwcis ar eich cyfrifiadur unwaith y byddwch chi wedi clicio ar chwaraeydd fideo YouTube, ond ni fydd YouTube yn storio cwcis adnabod unigolion ar gyfer chwarae fideos wedi eu mewnosod gan ddefnyddio'r uwch-osodiad preifatrwydd. I ganfod mwy, ewch i dudalen gwybodaeth mewnosod fideos YouTube.

 

Gwybodaeth gosod fideos YouTube

 

Hysbysiad Preifatrwydd GovDelivery  

Rydym yn defnyddio’r llwyfan GovDelivery, sy’n cael ei ddarparu gan Granicus, ar gyfer ein cylchlythyron. Pan fyddwch yn cofrestru byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i anfon diweddariadau rheolaidd atoch ar y pynciau rydych wedi’u dewis. Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd a ddad-danysgrifio o’r gwasanaeth hwn. 

 

Mae Granicus yn storio eich data yn UDA ac mae wedi’i ardystio dan y fframwaith Tarian Preifatrwydd UE-UDA. Pan fyddwch yn cofrestru i’n cylchlythyron, rydych yn cytuno i’ch data gael ei storio fel hyn. 

 

Fel prosesydd data ar ran Cyngor Bro Morgannwg, bydd GovDelivery yn defnyddio eich gwybodaeth i e-bostio cylchlythyron atoch. Sut mae GovDelivery yn casglu a storio eich gwybodaeth 

 

Pa fath o ddata personol sy’n cael ei brosesu?

  •  Cyfeiriad e-bost
  • Gwybodaeth am weithgareddau tanysgrifwyr (e.e. clicio ar ddolenni, dyddiad digwyddiad/stamp amser)
  • Dewisiadau tanysgrifwyr (pynciau tanysgrifio)
  • Gwybodaeth am ddiwrnodau casglu gwastraff - Dim ond os ydych wedi tanysgrifio i’r pwnc Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff.
  • Gwybodaeth am y math o ailgylchu - Dim ond os ydych wedi tanysgrifio i’r pwnc Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff.
  • Rhif Cyfeirnod Eiddo Unigryw (RhCEU) - Dim ond os ydych wedi tanysgrifio i’r pwnc Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff. Mae hyn i baru eich tanysgrifiad ag unrhyw newidiadau casglu yn y dyfodol er mwyn osgoi’r angen i ail-danysgrifio. 

Sut caiff fy ngwybodaeth ei defnyddio?

Bydd gwybodaeth bersonol rydych wedi’i rhoi i ni yn cael ei defnyddio i:

  • Anfon newyddion a gwybodaeth atoch dros e-bost
  • Anfon bwletinau eiddo-benodol atoch (os ydych wedi rhoi eich RhCEU ar gyfer y pwnc Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff)

 

 

Wrth i'r Cyngor greu gwasanaethau newydd, mae'n bosibl y bydd angen i ni addasu'r datganiad hwn. Os bydd ein polisi preifatrwydd yn newid ar unrhyw adeg yn y dyfodol, caiff ei gofnodi ar y dudalen hon.