Cost of Living Support Icon

Budd-dal Tai 

Mae’r Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor yn rhoi help i chi dalu’ch rhent preifat neu Gyngor a thaliadau’r Dreth Gyngor.

 

Os ydych ar incwm isel, mae'n bosib y gallwch gael help i dalu eich rhent a/neu eich Treth Gyngor.

 

Sylwer, o 27 Ionawr 2021, ni allwn bellach dderbyn hawliadau Budd-dal Tai gan gwsmeriaid o oedran gweithio sy'n cael y premiwm anabledd difrifol o fewn eu budd-dal presennol (Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith, neu Lwfans Cymorth Cyflogaeth). Nawr bydd angen i chi hawlio help gyda'ch costau tai drwy Gredyd Cynhwysol. Ewch i www.gov.uk/universalcredit am fwy o fanylion a sut i hawlio.

 

Gwnewch Apwyntiad yn y Swyddfeydd Dinesig

Gallwch nawr wneud apwyntiad ar-lein er mwyn ymweld ag ymgynghorydd yn y Swyddfeydd Dinesig. Gallwch drefnu apwyntiad 14 diwrnod o flaen llaw.  

 

Wrth gyrraedd, dilynwch y system giwio sydd mewn lle. Bydd ymgynghorydd yn gwirio eich apwyntiad ac yn eich tywys i’r ystafell gyfweld pan fydd ar gael. Dewch â'r holl ddogfennau angenrheidiol sy’n berthnasol i’ch ymholiad gyda chi, a bydd hyn yn helpu'r cynghorydd i reoli eich penodiad yn effeithlon.   

 

Gwneud Apwyntiad

 

Mae pob apwyntiad wyneb yn wyneb am 20 munud. Dylech gyrraedd dim mwy na 5 munud cyn eich apwyntiad. Os oes angen apwyntiad hirach arnoch, ffoniwch y swyddfa a gallwn drefnu hyn ar eich rhan:

  • 01446 709244

 

Sylwer: Wrth wneud eich apwyntiad, bydd y wybodaeth gyswllt a roddoch yn cael ei chadw am 21 diwrnod ar gyfer Cynllun Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru er mwyn cyfyngu lledaeniad Covid-19.

 

 

Gallech gael Gostyngiad y Dreth Gyngor i’ch helpu i dalu eich Treth Gyngor os ydych yn ennill incwm isel neu’n derbyn Credyd Cynhwysol.  Bydd y gostyngiad y gallai fod hawl gennych i’w gael yn dibynnu ar eich incwm a’ch amgylchiadau, ac incwm ac amgylchiadau unrhyw un sy'n rhan o'ch cartref.  Gall unrhyw un sy’n atebol dros dalu’r Dreth Gyngor, h.y. y person neu bersonau a enwir ar y bil, wneud cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor.   

 

Gallwch hefyd wneud cais am Fudd-dal Tai os ydych wedi’ch lleoli mewn mathau penodol o Lety Dros Dro gan y Cyngor, gan gynnwys Llety Dros Dro brys. Gallwch hefyd hawlio Budd-dal Tai o’r dyddiad hwn os ydych yn byw mewn Llety dros dro ar hyn o bryd a bod eich taliadau rhent yn newid. 

 

  • Gostyngiad y Dreth Gyngor

    Gallwch wneud cais am Ostyngiad Treth Gyngor os ydych yn oedran gweithio neu'n bensiynwr ac ar incwm isel, p'un a ydych yn ddi-waith neu'n gweithio. Os oes gennych dros £16,000 o gyfalaf neu gynilion, ni fydd gennych hawl i ostyngiad fel arfer.  Nid yw'r terfyn o £16,000 yn berthnasol os ydych ar Gredyd Pensiwn Gwarantedig.

     

     

    Os ydych yn ansicr a ddylech chi fod yn gwneud cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor, ffoniwch 01446 709244 i ofyn am gyngor.  

     

    Os ydych eisiau hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor, gallwch wneud cais ar-lein: 

     

    Gwneud cais ar-lein 

     

 

  • Fudd-dal Tai

    O 10 Hydref 2018 ymlaen, ni allwn dderbyn ceisiadau newydd am Fudd-dal Tai gan y rhan fwyaf o bobl sydd o oedran gweithio.

     

    Fodd bynnag, gallwch hawlio Budd-dal tai os ydych yn bodloni unrhyw un o’r amodau canlynol:

    • Os ydych wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
    • Rydych yn un o gwpl ac mae un ohonoch wedi cyrraedd oedran Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
    • Tan 1 Chwefror 2019 – mae gennych dri o blant neu fwy.  Fodd bynnag, os ydych wedi bod yn derbyn y Credyd Cynhwysol yn ystod y chwe mis blaenorol neu yn gwneud cais newydd fel unig riant cyn pen un mis o fod yn bartner mewn hawliad Credyd Cynhwysol ar y cyd mae’n rhaid i chi adhawlio’r Credyd Cynhwysol ac nid Budd-dal Tai.
    • Os ydych yn breswylydd mewn rhai mathau o lety â chymorth.
    • Os ydych wedi’ch lleoli mewn rhai mathau o Lety Dros Dro gan y Cyngor, gan gynnwys Llety Dros Dro brys. Gallwch hefyd hawlio Budd-dal Tai o’r dyddiad hwn os ydych yn byw mewn Llety dros dro ar hyn o bryd a bod eich taliadau rhent yn newid.  

    Os ydych yn ansicr a ddylech chi fod yn gwneud cais am Fudd-dal Tai, ffoniwch 01446 709244 i ofyn am gyngor.  

     

    Credyd Cynhwysol

 

Os ydych chi’n credu eich bod yn dod o dan unrhyw un o’r categorïau uchod ac yn gymwys i hawlio Budd-dal Tai (a/neu Ostyngiad y Dreth Gyngor), gallwch wneud cais ar-lein:

 

Gwneud cais ar-lein 


  • Prydau Ysgol Am Ddim

    Os yw eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael help tuag at gost ei wisg ysgol.  Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am hyn.

     

    Prydau Ysgol Am Ddim 

    Grant Hanfodion Ysgol (GHY)

     

     

 

 

Taliad

Mae’r Cyngor yn talu Gostyngiad y Dreth Gyngor yn syth i’r Cyfrif Treth Gyngor. Mae’r Cyngor yn talu Budd-dal Tai drwy BACS ar sail ôl-daliad pedair wythnos, neu’n syth i’r landlord mewn rhai amgylchiadau.  Telir tenantiaid Cyngor yn syth i’w cyfrif rhent.

 

Cais am Fudd-dal Tai a’r Dreth Gyngorn

Derbynnir ceisiadau oddi wrth bob rhan o’r boblogaeth gan fod y meini prawf ar gyfer gwneud cais yn seiliedig ar incwm a gwariant cost tai. Os nad ydych yn sicr, gwnewch gais. Rydym yma i’ch helpu. Apply online or download a Housing Benefit and Council Tax Reduction Scheme Application Form:

 

Ffurflen Gais am Fudd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor

Cyfrifiannell budd-dal Ar-lein

Y cyfan sydd rhaid i chi wneud yw llenwi ffurflen i gael amcangyfrif o fudd-daliadau ar-lein yn y fan a'r lle. Cofiwch mai dim ond amcangyfrif yw hwn yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir gennych chi. I gael gwerthusiad llawn, gwnewch gais ffurfiol cyn gynted â phosibl neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol. 

 

Cyfrifiannell budd-dal Ar-lein

Cyfrifiannell Hawliad Ystafelloedd Gwely 

Ar gyfer Lwfans Tai Lleol neu Rent Tai Cymdeithasol - mae’r swm o Fudd-dal Tai y gellir ei ddyfarnu ar gyfer tenantiaid preifat a thenantiaid mewn eiddo Cyngor neu Gymdeithas Tai yn gyfyngedig i’r gofyniad o ran ystafelloedd gwely yr aelwyd.  

 

Llenwch y ffurflen hon i gael amcan ar-lein yn syth bin o faint o ystafelloedd gwely y mae gan eich aelwyd hawl iddo. Cofiwch mai amcan yw’r cyfrifiad hwn yn seiliedig ar y wybodaeth a roddoch. 

 

Cyfrifannell Ystafelloedd

 

I gael gwerthusiad llawn, gwnewch hawliad ffurfiol cyn gynted â phosibl neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol. 

 

Newid o ran Amgylchiadau

Yn ystod cyfnod budd-dal efallai y bydd rhai o'ch amgylchiadau yn newid, er enghraifft, rydych yn newid swydd, yn dechrau derbyn budd-dal gwladol arall, neu mae rhywun yn symud i mewn neu allan o’ch cartref. Rhaid i chi roi gwybod i’r swyddfa hon am bob newid, yn ysgrifenedig, cyn gynted ag y byddant yn digwydd.

 

Cynnydd mewn Budd-dal:  Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni am newid cyn pen un mis o’r newid ar gyfer Budd-dal Tai a 21 diwrnod ar gyfer Gostyngiad y Dreth Gyngor, yna gallwch golli rhan o’ch budd-dal. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybod i’r swyddfa hon ar eich rhan. Os ydych yn ansicr, ffoniwch y swyddfa hon i ofyn am gyngor, neu ysgrifennwch atom gyda'r wybodaeth sydd gennych. Byddwn ni wedyn yn penderfynu a fydd y wybodaeth dan sylw yn newid eich budd-dal ai peidio.

 

Gostyngiadau o ran Budd-dal: Os nad ydych yn rhoi gwybod i ni am newid yn eich amgylchiadau, a'n bod ni'n sylweddoli hynny yn ddiweddarach, yna caiff eich budd-dal ei newid o ddyddiad y dechreuodd y newid, a chaiff unrhyw ordaliad budd-dal a wnaed ei adennill oddi wrthych chi.

 

Mae peidio â rhoi gwybod i ni am newid yn eich amgylchiadau yn fwriadol yn drosedd a gall arwain at erlyniad.

 

Cyfarwyddwr Adnoddau

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holton

Y Barri

CF63 4RU

 

Sylwer na fyddwn, dan ein cyfarwyddiadau ar gyfer ceisiadau ar-lein a gwybodaeth a anfonir drwy e-bost, yn gyfrifol am hawliadau nac e-byst na ddaw i law. Rydym yn eich cynghori i gadw cofnod o bob cyfathrebiad electronig. Rydym hefyd yn eich atgoffa i sicrhau y byddwn yn gallu adnabod pwy sy’n anfon e-bost neu’n gwneud cais ar-lein, a’u cysylltu os yw’n bosibl gyda hawliad dilys.

 

Edrych ar hysbysiad preifatrwydd y cyngor.

 

Cyflwynwyd y Credyd Cynhwysol Gwasanaeth Llawn ym Mro Morgannwg ar 10 Hydref 2018. O’r dyddiad hwn ni all y cyngor dderbyn hawliadau newydd am y Budd-dal Tai ONI BAI eich bod yn byw mewn mathau penodol o lety â chymorth NEU eich bod yn derbyn premiwm anabledd difrifol o fewn eich hawliad presennol am LCG (Seiliedig ar Incwm), LCCh (Cysylltiedig ag Incwm), Cymhorthdal Incwm neu’r Budd-dal Tai (naill ai ym Mro Morgannwg neu mewn awdurdod lleol arall) a’ch bod yn cael eich trin fel tasech chi’n byw ar eich pen eich hun.

 

O 15 Mai 2019 ni allwn dderbyn hawliadau newydd am y Budd-dal Tai gan gyplau y mae dim ond un ohonynt wedi cyrraedd oedran pensiwn. Os ydych chi’n berson sengl sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn, gallwch hawlio’r Budd-dal Tai. Os ydych chi mewn cwpl a bod y ddau ohonoch wedi cyrraedd oedran pensiwn, gallwch hawlio’r Budd-dal Tai. Os ydych chi mewn cwpl ac mai dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn, ni allwch hawlio’r Budd-dal Tai oherwydd byddwch yn dod o dan y rheoliadau oedran gwaith o hyd ac felly bydd angen i chi hawlio’r Credyd Cynhwysol am help gyda chostau tai. Fodd bynnag, mae yna rai eithriadau i’r rheol hon – cysylltwch â’r swyddfa Budd-daliadau am ragor o wybodaeth.