Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Cofrestru 

Gwybodaeth a chanllawiau ynghylch cofrestru digwyddiadau bywyd gan gynnwys genedigaethau, marwolaethau priodasau a phartneriaethau sifil ym Mro Morgannwg

 

Mae cofrestru marwolaeth, hysbysiadau priodas neu bartneriaeth sifil, genedigaethau a marw-enedigaethau drwy apwyntiad yn unig, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.  

 

Gwasanaeth Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau

Gellir cynnig apwyntiadau genedigaethau yn Y Swyddfa Gofrestru, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri CF63 4RU. Cysylltwch â ni am apwyntiad:

 

 

  • 01446 700111

 

Mae modd cael apwyntiad yn ddwyieithog

 

 Archebu ar-lein

Os bydd angen i chi gofrestru marwolaeth sydd wedi digwydd ym Mro Morgannwg, bydd Cofrestrydd yn eich ffonio yn ystod y dyddiau nesaf i drefnu apwyntiad.  

  

 

 

Swyddfa Gofrestru Bro Morgannwg

Swyddfeydd Dinesig 

Heol Holltwn 

Y Barri 

CF63 4RU

 

  • Llun – Iau:  9:00yb - 4:30yh*  

    Gwener: 9:00yb - 4:00yh*

Nodwch: na ellir cyrchu unrhyw wasanaethau cofrestru yn West House ym Mhenarth. Mae holl wasanaethau cofrestru Bro Morgannwg yn y Barri.

 

 *Cofrestriadau drwy apwyntiad yn unig

 

 

Gofynnwn i ymwelwyr fynd at y dderbynfa ar lawr gwaelod y Swyddfeydd Dinesig, a bydd rhywun yno’n eu cyfeirio at y Swyddfa Gofrestru.

  

 

 

 

 

Mae gwasanaethau cofrestru statudol yn cael eu goruchwylio gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (SGG) sy’n rhan o Swyddfa Pasbort Ei Mawrhydi ac yn goruchwylio cofrestru dinesig yn  Lloegr a Chymru. Mae’r un math o swyddfeydd ar gael ar gyfer  Yr Alban a  Gogledd Iwerddon.