Cost of Living Support Icon

Copïau o Dystysgrifau 

Copïau o Dystysgrifau Geni, Priodas, Partneriaeth Sifil a Marwolaeth

 

Mae’r Cofrestrydd Arolygu’n cadw cofnodion ar gyfer pob genedigaeth, priodas, partneriaeth sifil a marwolaeth sydd wedi digwydd ym Mro Morgannwg er 1837. 

 

Nodwch: mae ffiniau ardaloedd cofrestru wedi newid dros y blynyddoedd, ac o bosib bydd rhai cofnodion yn cael eu cad mewn ardaloedd cofrestru gwahanol erbyn hyn.

 

Gwybodaeth am ffiniau

 

Gallwch chi wneud cais am gopi o dystysgrif drwy’r post, dros y ffôn neu drwy alw heibio. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch chi:

  • y math o dystysgrif rydych yn gwneud cais amdani (geni, priodas, marwolaeth neu bartneriaeth sifil) 
  • yr enw neu’r enwau sy’n berthnasol i’r dystysgrif  
  • dyddiad y digwyddiad 
  • lleoliad y digwyddiad
  • unrhyw wybodaeth bellach berthnasol a allai fod o help i ni ddod o hyd i’r dystysgrif

  

Tystysgrifau Copi Safonol

 

Pris: £12.50 yn barod i'w casglu/postio 2il ddosbarth ar ôl 3.00 pm ar y 15fed diwrnod

Tystysgrif Copi â Blaenoriaeth

Pris: £38.50 yn barod i'w casglu/postio dosbarth 1af ar ô 3.00 pm ar y diwrnod gwaith nesaf

Sut i wneud cais

Cais ar-lein 

 

CAIS AM DYSTYSGRIF GENI, PRIODAS, MARWOLAETH

 

Cais dros y ffôn 

Gellir gwneud cais am ffurflen dros y ffôn.

  • 01446 700111

 

Gwneud cais yn y Swyddfa Gofrestru 

Gall ceisiadau gael eu gwneud drwy ymweld â Swyddfa Gofrestru Bro Morgannwg yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri. Mae hyn yn golygu bod angen llenwi ffurflen fer. Derbynnir taliadau mewn arian parod, siec neu gerdyn.

Nodwch: na ellir cyrchu unrhyw wasanaethau cofrestru yn West House ym Mhenarth. 

 

Cais drwy’r post 

Dylid anfon siec neu archeb bost gyda phob cais, yn daladwy i: 'Cyngor Bro Morgannwg'. Os gwneir cais am dystysgrifau lluosog, rydyn ni’n argymell eich bod yn anfon siec ar wahân ar gyfer pob cofnod.

 

Swyddfa Gofrestru Bro Morgannwg

Y Swyddfeydd Dinesig 

Holton Road 

Y Barri 

CF63 4RU

 

 

Os ydy’r wybodaeth a roddir yn gyflawn ac yn gywir, byddwn yn darparu tystysgrif o fewn pum niwrnod gwaith. Fodd bynnag, os mai gwybodaeth rannol yn unig y gellir ei rhoi, efallai fydd angen ychwaneg o amser arnom i chwilio’r mynegeion â llaw, neu bydd angen manylion pellach gennych chi cyn i ni gyflawni chwiliad. 

 

Os na fyddwn ni’n medru dod o hyd i’r cofnod y gwnaethoch gais amdani, byddwn yn dychwelyd eich siec neu archeb bost atoch.