Drwy’r bartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig, mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn dod â chydweithwyr ynghyd sy’n darparu iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Caerdydd a Bro Morgannwg. Nod y bartneriaeth yw gwella gwasanaethau drwy gydweithio’n agosach ar gyfer grwpiau o bobl yn ein cymunedau, gan gynnwys pobl hŷn, plant ag anghenion cymhleth, y rhai ag anawsterau dysgu a’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl. Sefydlwyd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; chwaer-Ddeddf Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol wedi, ac yn parhau i weithio mewn partneriaeth er mwyn gwella lles dinasyddion ledled y Fro.
Polisïau a Strategaethau Allweddol:
Cynllun Ardal Caerdydd a’r Fro ar gyfer Anghenion Gofal a Chymorth
Asesiad Anghenion Y Boblogaeth Caerdydd a’r Fro
Adroddiad Blynyddol y BPR