Cost of Living Support Icon

Cyfamod y Lluoedd Arfog 

Ar 23 Mehefin 2011 cyflwynodd Bro Morgannwg Gyfamod Cymunedol – y cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid ein bod ni gyda’n gilydd yn cydnabod ac yn deall y dylai’r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a'r gymdeithas y maen nhw’n eu gwasanaethu gyda'u bywydau.

 

Ei ddwy egwyddor yw, gan gydnabod rhwymedigaethau unigryw'r Lluoedd Arfog a’r aberthau a wneir ganddynt:

  • Na ddylai'r rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, boed yn rheolaidd neu wrth gefn, y rheiny sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, a'u teuluoedd, wynebu unrhyw anfantais o'i gymharu â dinasyddion eraill o ran darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a masnachol

  • Bydd ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig o ran y sawl sydd wedi cyfrannu mwyaf, drwy anaf a phrofedigaeth er enghraifft

 

Os ydych chi’n aelod o’r Lluoedd Arfog, yn gyn-filwr, yn aelod o’r teulu agos, neu’n ŵr neu’n wraig weddw, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i hwyluso mynediad rhwydd i’r gefnogaeth a’r hawliau sy’n ddyledus i chi.

 

Mae’r term ‘cymuned y lluoedd arfog’ yn cyfeirio at bawb sydd neu a fu’n aelodau o’r Fyddin, y Llynges, yr Awyrlu Brenhinol a’r Llynges Fasnachol (mewn cyfnod o frwydro). Mae’r gymuned hefyd yn cynnwys aelodau’r teulu agos a dibynyddion y sawl sydd wedi gwasanaethu.

 

Mae ystod eang o wasanaethau wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer cymuned y lluoedd arfog ar gael gan lywodraeth leol, y Weinyddiaeth Amddiffyn a sefydliadau trydedd sector. Gall dod o hyd i’r sefydliad gorau i helpu fod yn broses ddryslyd.

 

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am wasanaeth, gwenwch yn siŵr ein bod yn gwybod eich bod yn aelod o gymuned y lluoedd arfog. Yn aml iawn, maw rheolau arbennig yn berthnasol i aelodau’r gymuned yng nghyd-destun gwasanaethau llywodraeth leol, ac rydyn ni’n awyddus i sicrhau eich bod yn medru elwa ar y rhain. 

 

Dolenni Defnyddiol