Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD)

Vale Family Information Service Logo

Gwybodaeth am ofal plant, gweithgareddau a gwasanaethau i blant a phobl ifanc a chymorth i deuluoedd yn y Fro.

 

  • 0808 281 6727- Opsiwn 1
  • familycompass@valeofglamorgan.gov.uk

  

Cwmpawd Teulu Bro

Mae gennym bellach un drws ffrynt i gael mynediad i'r gwasanaethau canlynol:

  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Gwasanaethau Cymorth Cynnae gan gynnwys Llinell Gwyngor Teuluoedd yn Gyntaf, y Tim o Amgylch y Teulu, Gwasanaeth Rhianta'r Fro
  • Gwasanaethau Plant yr AALI

Gelwir hyn yn Cwmpawd Teulu Bro. 

Mae Cwmpawd Teulu Bro yn darparu amrywiaeth o wybodaeth, cyngor, cymorth ac amddiffyniad i blant, pobl ifanc, eu rhieni, gofalwyr a theuluoedd ym Mro Morgannwg. Ei nod yw darparu'r wybodaeth a'r cymorth cywir i chi ar yr adeg gywir gan eich pwynt cyswllt cyntaf. 

 

Mae gwefan newydd wedi'i datblygu sy'n hawdd  llywio trwyddi, yn cefnogi hunangymorth ac yn eich galluogi i gael mynediad i'r cymorth cywir ar yr adeg gywir: 

 

Cwmpawd Teulu Bro

 

 

Pwy ydyn ni a beth ni’n ‘neud?

Ni yw’r lle cyntaf y mae teuluoedd yn mynd ato i chwilio am wybodaeth ac arweiniad ar:

 

  • Opsiynau gofal plant, gan gynnwys gwarchodwyr plant, gofal plant y tu allan i'r ysgol, cynlluniau gwyliau, cylchoedd chwarae, a meithrinfeydd dydd.
  • Help gyda chostau gofal plant, gan gynnwys cyllid Cynnig Gofal Plant 30 awr Llywodraeth Cymru ar gyfer rhieni sy'n gweithio neu fyfyrwyr mewn addysg bellach neu uwch.
  • Grwpiau rhieni a phlant bach, gweithgareddau cyn ysgol a dechrau yn yr ysgol feithrin.
  • Gweithgareddau a gwasanaethau i blant a phobl ifanc
  • Gwasanaethau cymorth i deuluoedd gan gynnwys ein Mynegai i Blant a Phobl Ifanc ag Anableddau neu Anghenion Ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad, ewch i:

Cwmpawd Teulu Bro

Tystebau

“Ffoniais y GGiD i ofyn am ofal plant ar ôl ysgol, gofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol a chyllid, a hefyd sut i wneud cais am hyn.  Mae gan y tîm lawer iawn o wybodaeth, ac fe wnaethant fy helpu ar unwaith.  Maent yn barchus iawn, maent yn gwrando, ac maent yn gyfeillgar.  Maen nhw eisiau helpu. Rydw i wedi eu hargymell i fy ffrindiau."

 

"Roeddech chi’n help mawr i mi, gan anfon rhestrau o’r holl ofal plant sydd ar gael yn fy ardal i er mwyn i mi fynd yn ôl i'r gwaith a'r coleg.  Rwy'n eich argymell chi i rieni eraill."

 

"Fe wnes i gysylltu â nhw, gan fy mod i eisiau meithrinfa cyfrwng Cymraeg i fy mab.  Daethant yn ôl ataf yn gyflym iawn.  Fe wnaethant hefyd ddweud wrthyf am y Cynnig Gofal Plant.  Mae'r tîm mor ddefnyddiol. Mae dim ond angen eu ffonio nhw."

 

Adroddiadau a Deunyddiau Marchnata

 

 

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant (ADGP) 

Rydym yn falch o gyflwyno Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2022. Mae’n rhoi trosolwg o ddarpariaeth gofal plant a'r galw ym Mro Morgannwg, gan gwmpasu'r nifer o ffactorau gwahanol gan gynnwys barn rhieni, ysgolion, darparwyr gofal plant a rhanddeiliaid allweddol.

 

 

Os nad ydych yn byw ym Mro Morgannwg, chwiliwch am eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol: 

 

Dod o hyd i’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol