Cost of Living Support Icon

Tai

Gwybodaeth ar dai i bobl sy’n byw yng Nghartrefi’r Fro, cwsmeriaid Homes4U ac i bobl sy’n awyddus i brynu tŷ am y tro cyntaf.

homeless logo simple

Ydych chi'n poeni am ddod yn ddigartref?

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio teclyn newydd i helpu pobl i ddod o hyd i'r cyngor a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

 

Offeryn cyngor ar dai

 

Gwnewch Apwyntiad yn y Swyddfeydd Dinesig

Gallwch nawr wneud apwyntiad ar-lein er mwyn ymweld a swyddog datrysiadau tai yn y Swyddfeydd Dinesig. Gallwch drefnu apwyntiad 14 diwrnod o flaen llaw.  

 
Wrth gyrraedd, dilynwch y system giwio sydd mewn lle. Bydd ymgynghorydd yn gwirio eich apwyntiad ac yn eich tywys i’r ystafell gyfweld pan fydd ar gael. Dewch â'r holl ddogfennau angenrheidiol sy’n berthnasol i’ch ymholiad gyda chi, a bydd hyn yn helpu'r cynghorydd i reoli eich penodiad yn effeithlon.   
 
Gwneud Apwyntiad
 
Mae pob apwyntiad wyneb yn wyneb am 50 munud. Dylech gyrraedd dim mwy na 5 munud cyn eich apwyntiad. Os oes angen apwyntiad hirach arnoch, ffoniwch y swyddfa a gallwn drefnu hyn ar eich rhan:

 

  • 01446 700111

 

Sylwer: Wrth wneud eich apwyntiad, bydd y wybodaeth gyswllt a roddoch yn cael ei chadw am 21 diwrnod ar gyfer Cynllun Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru er mwyn cyfyngu lledaeniad Covid-19.

Supporting People

Cefnogi Pobl 

Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn rhaglen genedlaethol a ariennir gan grant i ariannu gwasanaethau’n ymwneud â thai.

 

Cefnogi Pobl

Red Welsh-Government logo

Benthyciadau Tai

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig benthyciadau tai di-log.

 Benthyciadau Tai

Ty Iolo Hostel Barry - Photo (02)

Digartref

Cyngor a chymorth i bobl sy'n ddigartref, dan fygythiad o fod yn ddigartref neu nad ydynt mewn llety addas.

 

Digartref 

 

 

Cygnor Arrianol

Mae'r Tîm Cynghori Ariannol yn gweithio gyda thenantiaid y cyngor sydd eisiau help i reoli eu harian. Maent yn helpu tenantiaid sydd ag ôl-ddyledion a'r rheini sy'n ceisio gwneud y gorau o'u hincwm er mwyn gwneud eu tenantiaeth yn fwy fforddiadwy.

 

Cygnor Ariannol

 

Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018

Roedd Deddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen Wybodaeth i Denantiaid sy'n egluro effaith y ddeddfwriaeth:

 

www.gov.wales/righttobuy

 

 

mappa english

O dan Adran 325(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, mae gan y Cyngor (gan gynnwys Gwasanaethau Tai) Ddyletswydd i Gydweithredu yn y Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd (MAPPA).

 

Ceir canllawiau cyffredinol ar MAPPA yn www.mappa.justice.gov.uk

 

Am unrhyw gyngor e-bostiwch : WalesNPS.South.ViSOR@justice.gov.uk