Cost of Living Support Icon

0 percentBenthyciadau Tai Di-log a Grantiau Cartrefi Gwag

Mae Cyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth â  Llywodraeth Cymru yn darparu benthyciadau di-log a Grantiau Cartrefi Gwag i wella safon isel tai ledled Bro Morgannwg. 

 

Mae’r Cyngor yn cynnig benthyciadau tai heb log. Mae benthyciadau ar gael i helpu perchen-feddianwyr gyda gwaith trwsio hanfodol, i helpu perchnogion i ddod ag eiddo gwag hir-dymor yn ôl i ddefnydd, a hefyd i helpu landlordiaid/datblygwyr i drosi adeiladau gwag yn unedau preswyl.  Mae Grantiau Cartrefi Gwag bellach hefyd ar gael i helpu gyda'r gost o wneud eiddo yn ddiogel cyn symud iddo.

 

Empty Homes banner

 

 

 

Paintbrush iconBenthyciad Eiddo Gwag Landlordiaid

Mae benthyciadau ar gael i gynorthwyo perchnogion i wneud gwaith atgyweirio neu wella fel bo modd byw yn y cartref. Bydd y benthyciad ar gael i berchnogion sy’n dymuno gwerthu neu rentu’r eiddo. Gellir defnyddio’r benthyciad ar gyfer gwaith ar eiddo preswyl neu adeiladau masnachol, gan gynnwys rhannu eiddo’n fflatiau. Rhaid bod yr eiddo’n wag am leiafswm o chwe mis.  

 

Gall perchnogion eiddo gwag, elusennau, busnesau a datblygwyr tai wneud cais am fenthyciad di-log. Gall ymgeiswyr wneud cais am fenthyciad o hyd at £35,000 yr uned, a’r uchafswm yw £250,000 i bob ymgeisydd. Caiff y benthyciad ei ad-dalu dros gyfnod o ddwy flynedd os caiff yr eiddo ei werthu, neu bum mlynedd os caiff yr eiddo ei osod.  

 

Benthyciad Eiddo Gwag Landlordiaid - Cwestiynau Cyffredin

 

Dripping tap iconBenthyciad Eiddo Gwag Perchen–Feddiannwyr a Grantiau Cartrefi Gwag

Mae benthyciadau ar gael i berchnogion sy’n dymuno byw mewn eiddo sy’n wag ar hyn o bryd. Gellir defnyddio’r benthyciad i wneud gwaith atgyweirio i alluogi perchennog eiddo gwag i fyw yno ar ôl cwblhau’r gwaith. Gall gwaith gynnwys gosod boeleri gwres canolog newydd, atgyweirio systemau trydanol a gwaith i waredu lleithder. 

 

Mae Grantiau Cartrefi Gwag nawr hefyd ar gael i gynorthwyo perchnogion eiddo gyda'r gost o wneud eiddo gwag yn ddiogel ac yn ddiogel cyn symud i mewn.

 

Caiff ymgeiswyr wneud cais am fenthyciad di-log o swm rhwng £1,000 a £35,000, a gaiff ei ad-dalu dros gyfnod o hyd at bum mlynedd. 

 

Benthyciad Eiddo Gwag Perchen–Feddiannwyr - Cwestiynau Cyffredin

 

Pencil and spanner iconBenthyciad Perchen-Feddiannwyr (Gwella Cartref)

Mae benthyciadau ar gael i gynorthwyo perchnogion-feddiannwyr i wneud gwaith sy’n hanfodol i sicrhau bod eu cartref yn ddiogel ac yn gynnes. Gall y gwaith gynnwys gosod boeleri gwres canolog newydd, atgyweirio systemau trydanol, gwaith i waredu lleithder ac adnewyddu ffenestri a drysau diffygiol.  

 

Caiff ymgeiswyr wneud cais am fenthyciad di-log o swm rhwng £1,000 a £35,000, a gaiff ei ad-dalu dros gyfnod o 5-10 mlynedd.   

 

Benthyciad Perchen-Feddiannwyr (Gwella Cartref) - Cwestiynau Cyffredin

 

Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol

 

  • Ydych chi'n berchen ar eiddo sy'n wag ar hyn o bryd?

  • Oes angen cymorth arnoch i'w wneud yn ddiogel cyn i chi symud i mewn?

  • Ydych chi'n ystyried prynu eiddo gwag i fyw ynddo, ond bod angen cymorth arnoch cyn i chi allu ei ailddefnyddio?

Os ydych, a bod yr eiddo yn wag ers dros 12 mis, gallech fod yn gymwys am grant o hyd at £25,000 i'ch helpu i ailddefnyddio eich eiddo a'i wneud yn fwy effeithlon o ran ynni.

 

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Lleol Arweiniol ar gyfer y Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol a nhw sy’n darparu'r grantiau ar ran Awdurdodau Lleol Cymru, gan gynnwys Cyngor Bro Morgannwg.

 

I holi, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:

 


Sylwer, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r prif Reolwr Data ar gyfer y data personol a brosesir at ddibenion y Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol. Fodd bynnag, bydd peth o'r data hefyd yn cael ei brosesu gan Gyngor Bro Morgannwg i hwyluso'r Cynllun.

 

 

Gweler dolenni i'r Hysbysiadau Preifatrwydd isod:

 

 

Cymorth TAW ar Eiddo Gwag 

Mae gwneud tai gwag yn addas i fyw ynddynt unwaith eto’n medru bod yn ddrud, yn enwedig pan fo angen gwneud gwaith adnewyddu sylweddol arnynt. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno nifer o newidiadau i’r system dreth a allai leihau costau, o bosib.

 

Gwybodaeth bellach 

Codir ffi am wneud cais am fenthyciad, a bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod yn medru ad-dalu’r benthyciad o fewn terfyn amser penodol. Caiff benthyciadau eu gwarantu gan yr eiddo, a bydd morgeisi cyfredol yn cael eu cloriannu. Ni all y morgais a / neu’r benthyciad fod yn fwy nag 80 y cant o werth yr eiddo.  

 

Cymru Gynnes

Mae Cymru Gynnes yn gweithio gyda gwahanol wasanaethau i sicrhau bod cartrefi'n gynnes ac yn ddiogel.  Gallan nhw roi cyngor am ddim i chi ynghylch:

  • ynni,
  • biliau dŵr,
  • gwres,
  • cofrestru â’r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth,
  • a mesurau diogelwch yn eich cartref.

Gallwch gael cyngor drwy lenwi ffurflen atgyfeirio neu drwy ffonio.

 

  • 0800 091 1786

 

Warm Wales

 

Cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru

 

Cymorth i wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon!

Mae cynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru yn gwneud cartrefi Cymru ynllefydd cynhesach a mwy ynni effeithlon i fyw ynddyn nhw. Mae Nyth yn cynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru i’ch helpu ileihau eich biliau ynni, cynyddu eich incwm, a lleihau eich ôl troed carbon.Gallech hefyd fod yn gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim felmesurau inswleiddio gwres cartref am ddim.

 

Ffoniwch rhadffôn 0808 808 2244, o ddydd Llun i ddydd gwener, 9am-6pm neu ewch i llyw.cymru/nyth i gael gwybod mwy.

Nest logo

 

Cynllun ECO4 (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni gan gynnwys ECO4 Flex)

ECO4 yw'r cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni diweddaraf a weinyddir gan OFGEM. Nod cyllid RhCY yw helpu'r rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd ac sy'n agored i'r risg o fyw mewn cartref oer, ac y mae eu tŷ yn aneffeithlon o ran ynni.  Mae cyllid RhCY yn talu am osod mesurau effeithlonrwydd ynni fel gwelliannau gwresogi ac inswleiddio, a thrwy hynny yn helpu i leihau cost gwresogi'r cartref a chreu arbedion carbon sy'n dda i'r amgylchedd hefyd. 

 

  • Gall preswylwyr fod yn gymwys i gael mesurau a ariennir gan RhCY os ydynt yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol: 
    Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) yn Seiliedig ar Incwm
    Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
    Cymhorthdal Incwm (CI) 
    Credyd Gwarant Credyd Pensiwn
    Credyd Treth Gwaith
    Credyd Treth Plant
    Credyd Cynhwysol
    Budd-dal Tai
    Credyd Cynilion Credyd Pensiwn
    Budd-dal Plant (yn amodol ar gyfansoddiad a chapiau incwm)  

 

Osnad oes unrhyw un o'r budd-daliadau hyn yn cael ei hawlio, efallai y bydd yr aelwyd yn dal i allu derbyn mesurau wedi'u hariannu drwy'r broses cymhwysedd hyblyg ('ECO flex' yn fyr), er enghraifft os oes gan yr aelwyd incwm cyfunol islaw £31,000, neu os oes gan rywun yn y cartref gyflwr meddygol cymwys.   

 

Mae'r Datganiad o Fwriad hwn yn gosod meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer ECO4 Flex o 19eg Mai 2023 tan ddiwedd mis Mawrth 2026.

 

Sut i wneud cais

Preswylwyr: Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys i gael cyllid RhCY, siaradwch â sefydliad a all gynnig cymorth arbed biliau ac ynni diduedd am ddim i chi ac asesu a allech fod yn gymwys i gael cyllid, naill ai gan RhCY neu unrhyw raglenni grant eraill i helpu i dalu am welliannau i'ch cartref.  Mae Cymru Gynnes yn un darparwr sy'n cynnig cymorth o'r fath i unrhyw breswylwyr yng Nghymru.  

Gosodwyr: Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ffurfio partneriaeth ag E.ON ar ddarparu ECO4 flex.  Os ydych chi'n gwmni gosod ac eisiau holi am fod yn rhan o’n cynllun, cysylltwch ag E.ON.

 

Rhestr o Asiantau Eco-flex hysbys sy'n gweithredu ym Mro Morgannwg

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dim Rhwymedigaethau: Ni fydd Cyngor Bro Morgannwg yn derbyn unrhyw geisiadau sy'n gysylltiedig â RhCY ac nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd sy'n deillio o unrhyw ganlyniad negyddol, difrod neu golled sy'n deillio o dderbyn grant ECO FLEX.

 

 

Cysylltu â ni 

Os ydych yn dymuno derbyn gwybodaeth bellach am y cynlluniau benthyciadau neu becyn cais, llenwch y ffurflen ar-lein  neu gysylltu â:   

 

Eleri Nicholas, Swyddog Cartrefi Gwag a Benthyciadau,

Adfywio a Chynllunio,

Cyngor Bro Morgannwg,

Swyddfa’r Doc,

Heol yr Isffordd,

Y Barri,

CF63 4RT