Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i’r Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd. Mae’n dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net erbyn 2030 ac annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol i gefnogi Prosiect Sero gartref.
I gael mwy o awgrymiadau arbed ynni, ewch i’r Ymgyrch Help For Households
Ymgyrch Gaeaf Nyth Cymru – Eich helpu gydag effeithlonrwydd ynni a chynhesrwydd eich cartref (llyw.cymru)
Cysylltwch â Nyth ar-lein neu drwy ffonio 0808 808 2244
ECO4 yw'r cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni diweddaraf a weinyddir gan OFGEM. Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r darparwr ynni E.ON i gefnogi aelwydydd mewn cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n wael, gan wneud y cartrefi hynny'n fwy ynni-effeithlon a helpu i leihau effaith biliau ynni cynyddol.
Mae'r Datganiad o Fwriad hwn yn gosod meini prawf cymhwysedd hyblyg Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer ECO4 Flex o 19eg Mai 2023 tan ddiwedd mis Mawrth 2026.
Am fwy o wybodaeth: Dogfen Wybodaeth ECO4 E.ON
Os ydych yn gosod eiddo, dylech fod yn ymwybodol o'r Isafswm Safonau Effeithlonrwydd Ynni (srs.wales) ar gyfer landlordiaid.
Mae cyngor ychwanegol ar sut i godi safonau TPY ar gyfer eiddo ar gael ar-lein. Find ways to save energy in your home - GOV.UK (www.gov.uk)