Cost of Living Support Icon

Cofrestru Genedigaeth

Mae’n rhaid cofrestru pob genedigaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o fewn 42 ddiwrnod i enedigaeth y plentyn.

 

Os cafodd eich babi ei eni y tu allan i Fro MorgannwgGallwch wneud datganiad yn Swyddfa Gofrestru'r Barri.  Yna bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phostio i'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle cafodd eich babi ei eni a bydd yr enedigaeth yn cael ei chofrestru yno.  Dim ond pan fydd yr enedigaeth wedi’i chofrestru y gellir prynu tystysgrifau geni. Os hoffech gael tystysgrifau ar unwaith, bydd angen i chi wneud apwyntiad i gofrestru yn yr ardal lle cafodd y babi ei eni:   

 

Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd: Swyddfa Gofrestru Caerdydd

Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr: Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr

Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant:  Swyddfa Gofrestru Rhondda Cynon Taf

 

Os cafodd eich babi ei eni ym Mro Morgannwg neu os hoffech wneud datganiad ac aros am dystysgrif, cysylltwch â ni am apwyntiad:

 

Archebu ar-lein

 

Neu:

 

  • 01446 700111

Peidiwch â cholli allan, hawlio Budd-dal Plant dros y ffôn neu'r post

 

Sut i hawlio Budd-daliadau Plant

 

 

I gael mwy o wybodaeth am gofrestru genedigaeth, ewch i gov.uk:

 

Gov.uk/register-birth