Cost of Living Support Icon

Priodasau a Phartneriaethau Sifil

Rydym wrth ein boddau eich bod yn ystyried Bro Morgannwg ar gyfer eich diwrnod arbennig. Mae gan ein rhanbarth bopeth sydd ei angen arnoch er mwyn sicrhau bod eich diwrnod yn un i’w gofio go iawn.

 

 

Os ydych yn bwriadu priodi neu ddechrau partneriaeth sifil, bydd angen i chi roi hysbysiad cyfreithiol yn eich swyddfa gofrestru leol. Os ydych yn byw ym Mro Morgannwg, mae hynny'n golygu y bydd angen i chi wneud apwyntiad i ymweld â'r Swyddfeydd Dinesig yn y Barri. Mae hyn yn wir ni waeth ble mae’r seremoni’n cael ei chynnal.

 

Bydd angen i chi ddod â rhai dogfennau i'ch apwyntiad; mae'r holl wybodaeth i'w gweld yma:

 

gov.uk 

 

 

Ar ôl i chi wylio'r fideo, ac os ydych chi'n byw ym Mro Morgannwg, gallwch archebu eich hysbysiad apwyntiad yma:

 

Archebu apwyntiad (Trigolion y Fro Morgannwg yn unig) 

 

Mae’r gyfraith ar fin newid. Bydd yr oedran isaf ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil yn codi o 16 i 18 ym mis Chwefror 2023. Bydd hyn yn effeithio ar gyplau sydd wedi rhoi rhybudd o briodas cyn i'r gyfraith newid. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar hyn, cysylltwch â ni ar registrationservice@valeofglamorgan.gov.uk

 

Os nad ydych wedi penderfynu ar leoliad eto, gallwch ddod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch ar ein gwefan Seremonïau:

 

Eich Seremoni Yn Y Fro

 

A llyfryn:

 

Eich Diwrnod Arbennig Ym Mro Morgannwg