Cost of Living Support Icon

Newyddion   

Newyddion a diweddariadau cymorth Busnes    

 

Llwybr Bwyd y Fro 2025

Yn dilyn digwyddiad cyntaf yn 2023 a dychweliad llwyddiannus y llynedd, bydd ‘Llwybr Bwyd y Fro’ 2025 yn cael ei gynnal o 25 Mai i 3 Mehefin 2025.  

 

Mae’r ŵyl fwyd deng diwrnod aml-leoliad yn cynnig 'archwilio a dathlu bwyd, ffermio a chynaliadwyedd ym Mro Morgannwg.’ 

 

 

 

Trefi Smart Cymru

Mae Medi Parry-Williams, arbenigwr adfywio Canol Trefi / Canolfannau Siopa sydd â 15+ mlynedd o brofiad wedi ymuno â thîm Trefi Smart i gynnig cyngor a chymorth AM DDIM yn arbennig i fusnesau'r stryd fawr.


Mae Medi yn cynnig ei harbenigedd pwrpasol ar ffurf galwad ar-lein 1:1, gweithdy grŵp neu ymweliad â'ch busnes AM DDIM i'ch helpu i ddarganfod sut y gall data gefnogi eich busnes a gwneud penderfyniadau mwy effeithiol ac arbed amser/costau staffio a stocio.

 

 

     

Innovation Net Zero 

Mae Innovation Net Zero yn cefnogi busnesau mwyaf arloesol Cymru i ddatblygu a masnacheiddio atebion sero net newydd ac economi gylchol. Mae'r rhaglen yn cynnig cymorth wedi'i ariannu'n llawn gwerth hyd at £5,000 a £10,000 yn dibynnu ar yr awdurdod lleol. Bydd y busnesau sy'n cymryd rhan yn elwa ar arbenigedd yr arbenigwyr arloesi Innovation Strategy, BT rhyngwladol ac arbenigwyr cynaliadwyedd lleol Afallen. Mae’r gefnogaeth a gynigir gan y bartneriaeth yn cynnwys hyfforddiant busnes wedi’i deilwra, gweithdai, cyfleoedd rhwydweithio, mynediad i labordai arloesi BT, cymorth i godi arian a mwy.  Darganfod mwy:

 

 

        

Rhwydwaith Arloesi Twf Glân

Gall busnesau a sefydliadau trydydd sector sydd wedi’u lleoli ym Mro Morgannwg gael mynediad at gymorth wedi’i ariannu’n llawn sydd wedi’i gynllunio i’w helpu i ysgogi arloesedd a hybu cynaliadwyedd o fis Mai 2024, diolch i gyllid newydd a sicrhawyd gan Circular Economy Innovation Communities (CEIC).


Mae'r Rhaglen Twf Glân wedi'i hariannu'n llawn ar gyfer sefydliadau cymwys ac mae’n cynnig yr offer sydd eu hangen ar gyfranogwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r economi gylchol, a’u helpu i weithio tuag at nodau Sero Net, gwella lefelau gwasanaethau, lleihau costau gweithredu a chyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 


Mae'r rhaglen hefyd yn helpu sefydliadau i hybu arloesedd, gan ddatblygu cynlluniau twf glân a allai fod yn gymwys ar gyfer cyllid arloesi Llywodraeth Cymru.


Mewn ymateb i'r galw cynyddol o du busnesau, mae’r cymhwystra ar gyfer mewnlifiad 2024 wedi'i ehangu i gynnwys cwmnïau'r sector preifat am y tro cyntaf. 

 

Datganiadau o Ddiddordeb a Ffurflen Gais

 

 

    

Cysylltu â Ni

 

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ar 

ôl ymweld â'r safle, ffoniwch neu e-bostiwch y tĩm datblygu economaidd am gymorth.