Cost of Living Support Icon

Y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT).

Mae CGHT Bro Morgannwg yn nodi gweledigaeth, amcanion a strategaeth y Cyngor i wella rhwydwaith hawliau tramwy’r Sir.

 

Bwriedir i’r CGHT weithredu fel fframwaith cyffredinol i arwain gwaith y Cyngor o gynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy ac o flaenoriaethu’r gwaith sy’n cael ei wneud. Mae hefyd yn rhoi’r sail i’r gwaith cynllunio blynyddol.

 

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Drafft (CGHT drafft) - Ymgynghoriad

 

Mae'r drafft Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) yn amlinellu'r strategaethau

a fydd yn sail ar gyfer rheoli rhwydwaith hawliau tramwy Bro Morgannwg dros y 10

mlynedd nesaf. Bydd hon yn dod yn ddogfen statudol yn ei ffurf derfynol yn 2024.

 

Mae'r ddogfen hon yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd drwy ymgynghori.

Lluniwyd y ddogfen gyda chefnogaeth ac arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru a

Llywodraeth Cymru.

 

Mae copïau hefyd ar gael o'r dderbynfa yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, y

Barri a llyfrgelloedd lleol.

 

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Drafft 2024 - 2034

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg a Saesneg - This document is available in English and Welsh

 

Croesewir sylwadau drwy e-bost ( rowip@valeofglamorgan.gov.uk  ) neu drwy'r post erbyn 30 Tachwedd 2023.

Y CGHT presennol

Cafodd y CGHT presennol ei gytuno yn 2007 gan arwain at greu Gweledigaeth ar gyfer rhwydwaith hawliau tramwy’r Fro: 

 

 “Darparu, cynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus a galluogi pawb i fanteisio ar gefn gwlad”

A

“Galluogi ac annog defnydd cyfleus a chyfrifol a mwynhad o gefn gwlad ac arfordir y Fro”.

 

Mae chwe egwyddor allweddol yn sail i hyn:ROWIP Front cover English

  1. Mynediad i bawb
  2. Strategaeth reoli
  3. Gwelliannau cynaliadwy
  4. Gwell gwybodaeth
  5. Gwella rhwydwaith y llwybrau
  6. Cyd-destun ehangach

CGHT Cyhoeddi

Rhaid i’r Cyngor ailgyhoeddi’r CGHT bob deng mlynedd ac rydyn ni wrthi’n cyflawni’r dasg ar hyn o bryd. Mae’r Cyngor wedi cynnal ymgynghoriadau helaeth yn ddiweddar ac wedi adolygu dogfennau a phrosesau sy’n bodoli eisoes i gynnal asesiad o’r canlynol:

  • Cyflwr ffisegol y rhwydwaith

  • Pa mor gywir a chyfredol yw cofnodion cyfreithiol yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus

  • Darparu gwybodaeth am yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus a’r dull o’u rheoli

 

Bydd canfyddiadau’r asesiadau hyn yn helpu i lunio CGHT drafft fydd ar gael i ymgynghori arno maes o law.