Gellir cael pecyn cais trwy gysylltu â Thîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus Bro Morgannwg. Ar ôl eu cwblhau, rhaid dychwelyd y ffurflenni gyda map neu gynllun sy'n dangos y llwybr a hawliwyd a chopïau o dystiolaeth sy'n ategu’r cais megis dogfennau hanesyddol, mapiau neu ffurflenni tystiolaeth tystion (cynhwysir templedi ffurflenni tystiolaeth yn y pecyn).
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cyflwyno hysbysiad o'r cais ar bob perchennog a meddiannydd y tir yr effeithir arno, ac ardystio i'r Cyngor fod hyn wedi'i wneud. Efallai y bydd manylion tirfeddianwyr ar gael o'r Gofrestrfa Tir os na ellir eu cael trwy ymchwiliad lleol. Gall y Cyngor ofyn i ymgeiswyr bostio hysbysiadau ym mhob pen o'r llwybr a hawliwyd os na ellir olrhain tirfeddianwyr.
Mae gweithdrefnau cyfreithiol a gweinyddol hir ynghlwm wrth ymchwilio i GAMD, penderfynu arno a’i wneud. Mae hyn yn golygu efallai na fydd modd i ni ymchwilio i bob cais ar unwaith ac y gellir ciwio ceisiadau lle ceir ôl-groniad. Fel arfer, ymchwilir i GAMD yn ei dro yn seiliedig ar y dyddiad derbyn.
Mae cofrestr o geisiadau GAMD ar gael trwy'r adran Cofrestrau