Oes Angen Caniatâd Cynllunio Arnaf?
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor ac arweiniad ar ei gwefan ynghylch Datblygu a Ganiateir ar gyfer aelwydydd:
Cyngor Llywodraeth Cymru ar Ddatblygu a Ganiateir
Cyngor Llywodraeth Cymru ar Brojectau Cyffredin
Gwasanaethau Cyn Gwneud Cais
Ni all y Cyngor gynnig cyngor ysgrifenedig anffurfiol ar yr angen am ganiatâd cynllunio a bydd angen cais ffurfiol arno ar gyfer penderfyniadau o’r fath.
Cyflwynwch ffurflen ymholi am gyngor cyn gwneud cais ynghyd â’r ffi berthnasol:
• Deiliad tŷ - £25
• Datblygiad bach - £250
• Datblygiad mawr - £600
• Datblygiad sylweddol mawr - £1000
Am ffi ychwanegol o £160 (yn cynnwys TAW) bydd y Cyngor yn trefnu cyfarfod awr o hyd yn ôl disgresiwn y Cyngor.
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ymdrechu i ymateb yn ysgrifenedig i bob ymholiad cyn gwneud cais o fewn 21 diwrnod, oni bai y mae’r awdurdod a’r ymgeisydd wedi cytuno i ymestyn y cyfnod hwn.
Gall ymgeiswyr am ddatblygiadau Deiliad Tŷ ddisgwyl derbyn y wybodaeth ganlynol o leiaf gyda'r ymateb ysgrifenedig:
-
Hanes cynllunio perthnasol y safle
-
Y polisïau cynllun datblygu perthnasol yr asesir y cynnig datblygu yn eu herbyn
-
Canllawiau cynllunio atodol perthnasol (h.y. dylunio, cadwraeth ac ati)
-
Unrhyw ystyriaethau cynllunio materol eraill
-
Asesiad cychwynnol o’r datblygiad arfaethedig, yn seiliedig ar y wybodaeth uchod
Ar gyfer pob cynnig datblygu arall, dylai ymgeiswyr gael yr holl wybodaeth a amlinellir uchod yn ogystal â gwybodaeth ynghylch p’un ai a oes unrhyw gyfraniadau Adran 106 neu Ardoll Seilwaith Cymunedol yn debygol o gael eu ceisio, a syniad o gwmpas a maint y cyfraniadau hynny.