A oes gennyf hawl i gael gwasanaethau?
Os ydych yn oedolyn ag anghenion gofal cymdeithasol a allai effeithio ar eich iechyd, eich diogelwch neu'ch annibyniaeth, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch. Mae gennym ddyletswydd i asesu eich anghenion a sicrhau eu bod yn cael eu diwallu mewn ffordd sydd orau i chi.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gyfraith sy'n rhoi mwy o lais i chi am y gofal a'r cymorth a gewch. Mae'n rhoi mwy o bwyslais ar hyrwyddo annibyniaeth pobl i roi llais a rheolaeth gryfach iddynt.
Mae'r broses asesu ar gyfer gofal a chymorth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi. Mae'n ystyried cryfderau personol a’r cymorth sydd ar gael gan aelodau o'r teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned.
Asesu