Cost of Living Support Icon

Cartrefi Preswyl Cyngor Bro Morgannwg

Rydym ni’n darparu gofal personol i drigolion ein cartrefi drwy eu helpu i ymolchi a gwisgo a hybu eu hannibyniaeth

   

Mae yna ddewis o gartref ym Mro Morgannwg. 

 

Staff yr awdurdod lleol sy’n gweithio yn y cartrefi yma. Maen nhw’n cynnig llety i bobl hŷn sy’n fregus ac mae un ar gyfer pobl hŷn  sy’n dioddef o ddementia. Mae’r cartrefi hyn yn Y Bont-faen, Y Barri, Penarth a Dinas Powys.

 

Anelir y gwasanaeth at bobl 65 oed a throsodd sy’n ei chael hi’n anodd byw’n annibynnol yn eu cartrefi, er eu bod nhw’n cael gwasanaethau cymorth fel Home Care, gwasanaeth pryd ar glud, neu help gan eu teuluoedd a’u ffrindiau.