Cost of Living Support Icon

Therapi Galwedigaethol

Mae’r Therapyddion Galwedigaethol a gyflogir o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn asesu galluoedd ymarferol pobl o bob oed ag anabledd er mwyn eu galluogi i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. 

 

Gallwch chi wneud atgyfeiriad am asesiad gan Therapydd Galwedigaethol drwy ysgrifennu at Ganolfan UnFro neu ei ffonio. O bosib y bydd angen i chi wneud yr atgyfeiriad drosoch eich hun am un o’r rhesymau isod: 

  • Rydych chi’n cael trafferth rheoli gofal personol megis mynd i’r tŷ bach, ymolchi, gwisgo neu fwyta.
  • Rydych chi’n cael trafferthion symudoldeb megis eistedd mewn cadair neu godi, neu wrth fynd i’r gwely a chodi.
  • Rydych chi’n cael trafferth symudoldeb a mynediad i adnoddau hanfodol, megis dringo grisiau, mynd i mewn ac allan o’r tŷ neu gyrraedd ystafelloedd yn y cartref.

 

Bydd yr asesiad yn cloriannu eich sefyllfa unigol ac anghenion eich teulu a/neu eich cynhalwyr. Gallwn gynnig cyngor ar wahanol ddulliau o ddatrys problem, a hynny mewn cydweithrediad â mudiadau eraill os oes angen. O dan amodau penodol, mi allwn ni wneud yr isod:

  • Trefnu darparu addasiadau bach megis rheilen ar y grisiau a rheilenni cymorth i hwyluso hygyrchedd a symudoldeb
  • Cyflwyno cais am Grant Cyfleusterau Anabledd gan Gyngor Bro Morgannwg yn achos addasiadau mwy sylweddol i’r cartref, megis cadair esgyn neu gyfleusterau sy’n hygyrch i gadair olwyn

Atgyfeirio 

Rydyn ni’n derbyn atgyfeiriadau gan unigolion, teuluoedd a ffrindiau yn ogystal â gweithwyr proffesiynol. Oherwydd y galw uchel am wasanaethau Therapi Galwedigaethol, rhaid i ni flaenoriaethu ein cymorth. Rhoddir y flaenoriaeth uchaf i achosion megis yr isod:

  • Rhywun sy’n dioddef o salwch angheuol
  • Pan fod materion diogelwch yn codi wrth ddarparu gofal
  • Pan fod amhariad ar drefniadau gofal rhywun mewn modd a allai fod yn beryglus