Cyfleoedd Dydd Anableddau Dysgu
Pwy rydyn ni’n eu cefnogi?
Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dydd ystyrlon i oedolion ag anableddau dysgu, sydd hefyd ag anghenion cymhleth.
Gallwn gefnogi:
- Pobl ag anabledd dysgu a allai hefyd fod â chyflyrau eraill
- Pobl â gofynion iechyd ychwanegol
- Pobl ag anghenion cymhleth sydd angen meddyginiaeth bob dydd a/neu mewn argyfwng
- Pobl y mae arnynt angen cymorth ychwanegol gyda gofal personol
- Pobl ag amhariad ar y synhwyrau a’r clyw
Nid yw'r rhestr hon o bobl y gallwn ddarparu cymorth iddynt yn derfynol a chaiff pob atgyfeiriad ei ystyried ar sail unigol.
Beth ydyn ni’n wneud?
Rydym yn gweithio o’r Barri ac yn cynnig cyfleoedd dydd o'n dwy ganolfan, yn ogystal â lleoliadau cymunedol amrywiol, yn gwasanaethu dinasyddion ledled y Fro.
Rydyn ni’n trin pawb fel unigolion, gan greu rhaglenni wythnosol i'w grymuso i gyflawni canlyniadau neu nodau lles mewn meysydd fel gwaith a gwirfoddoli, dysgu a sgiliau byw'n annibynnol, byw'n iach, ymarfer corff a hamdden, celf a diwylliant. Rydyn ni’n cynllunio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, fel bod gan bobl ddewis a rheolaeth dros eu bywydau bob dydd. Rydyn ni’n gwneud pethau 'cyffredin' mewn mannau 'cyffredin', gydag aelodau o'r gymuned leol.
Mae ein gwasanaeth yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn eu gwneud yn fwy annibynnol, yn lleihau unigedd cymdeithasol ac yn manteisio i'r eithaf ar eu potensial. Rydyn ni’n darparu seibiant lleol gwerthfawr i deuluoedd a gofalwyr, gan alluogi pobl i aros yn nes at eu cartref.
Siaradwch â’ch Rheolwr Achos i gael rhagor o wybodaeth.