Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro
Mae VCRS yn wasanaeth integredig o Therapi, Ailalluogi, Gofal a Chymorth sy'n cael ei redeg ar y cyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyngor Bro Morgannwg.
O fewn VCRS mae tîm sy'n cynnwys Gweithwyr Proffesiynol Amlddisgyblaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n darparu therapi adsefydlu, ailalluogi ac adfer i chi yn eich cartref naill ai pan fyddwch chi'n dod gartref o'r ysbyty neu yn dilyn atgyfeiriad cymunedol.
Ein nod yw eich helpu i fod mor annibynnol â phosibl ac atal unrhyw fynediad dianghenraid i'r ysbyty neu gartref gofal ac, os oes angen, i'ch cynorthwyo gydag unrhyw anghenion gofal a chymorth yn y dyfodol.
Rydym yn cefnogi pobl sydd dros 18 oed sy’n byw ym Mro Morgannwg.
VCRS
Beth yw VCRS a ble rydym wedi ein lleoli?
Rydym yn dîm gwasanaeth cymunedol gyda staff therapi, iechyd a meddygol a gyflogir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a staff gofal cymdeithasol a gyflogir gan Gyngor Bro Morgannwg. Mae ein tîm wedi’i leoli yn Ysbyty’r Barri ac yn gweithio ar draws Bro Morgannwg ac rydym yn gweithredu drwy gydol y flwyddyn, 7 diwrnod yr wythnos. Bydd naill ai ysbyty, meddyg teulu neu weithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn cyflwyno atgyfeiriad ar ran claf yn gofyn am wasanaethau gan VCRS. Bydd ein tîm yn gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill ynghylch eu gofynion cymorth therapi, iechyd a gofal cymdeithasol a bydd yn rhoi adborth iddynt ar eich cynnydd.
Sut gall VCRS helpu?
Bydd VCRS yn darparu therapi, gofal ailalluogi a chefnogaeth i gleifion gartref yn hytrach nag yn yr ysbyty a chefnogaeth gydag adsefydlu i gynorthwyo adferiad. Byddwn yn cynnal cyfnod asesu am ddim o anghenion therapi/iechyd a gofal cymdeithasol defnyddwyr gwasanaeth gyda nhw; gan ystyried yr hyn sydd bwysicaf iddynt, a gyda'n gilydd byddwn yn datblygu rhaglen adsefydlu i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth. Byddwn yn trafod pa wasanaeth y gallwch ddisgwyl i ni ei ddarparu yn eich cartref. Ni allwn warantu union amser ar gyfer ein gwasanaethau; fodd bynnag, gallwn roi amser bras. Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd, gyda'r nod o leihau'r lefelau cymorth wrth i'ch iechyd corfforol a'ch lles wella.
Mwy Amdanom Ni…
Mae VCRS yn Ddarparwr Gwasanaeth Gofal Cartref cofrestredig o dan Ddeddf Rheoliadau ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac mae’n cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy’n monitro ac yn arolygu’r gwasanaeth. Rydym yn cynnig ‘gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn’ gan barchu’r unigolyn, ei hawliau a’i hawliau i gael dewis, ei drin ag urddas a pharch ac annog annibyniaeth. Mae VCRS yn darparu Cymorth Cartref ac Ailalluogi i bobl sy’n byw yn y gymuned yng Nghyngor Bro Morgannwg yn unol â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro.
Mae'r tîm gofal cymdeithasol Ailalluogi yn gweithredu gyda'r nos ac ar benwythnosau bob dydd (gan gynnwys Gwyliau Banc) o 07.00am – 22.30pm i ddarparu galwadau gofal a chymorth i ddiwallu anghenion yr unigolion a gofynion y gwasanaeth.
Nod VCRS yw adsefydlu pobl yn eu cartrefi eu hunain i atal derbyniadau i’r ysbyty ac i ailalluogi pobl sydd wedi dychwelyd adref yn dilyn arhosiad yn yr ysbyty tra bod unrhyw anghenion gofal a chymorth yn cael eu pennu yn y dyfodol.
Mae ailalluogi yn ddull sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n cynorthwyo pobl i ddysgu neu ailddysgu’r sgiliau angenrheidiol i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n bwysig iddynt sy’n hyrwyddo ac yn cynyddu annibyniaeth a llesiant i’r eithaf.
Sut i gysylltu â ni
Ymholiadau
Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro
(VCRS)
Llawr 1af, Ysbyty'r Barri
Heol Colcot
Barri
CF62 9YH