Cost of Living Support Icon
Cardiff-and-Vale-Advocacy-Gateway-Cropped-249x196

Porth Eiriolaeth Caerdydd A’r Fro

Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro yw’r pwynt cyswllt newydd i oedolion sy’n chwilio am gymorth i gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a darparu’r gwasanaethau Gofal a Chymorth y maen nhw’n ei dderbyn.

 

Mae’r Porth yna i drigolion 18+ oed yng Nghaerdydd a’r Fro. Gall helpu’r rheini sy’n derbyn gofal, y rheini y gallai fod angen cefnogaeth arnynt, neu weithwyr gofal/cymorth proffesiynol sy’n poeni am ofal a chymorth cymdeithasol rhywun.

 

Mae Eiriolaeth yn annibynnol o’r Gwasanaethau Cymdeithasol, ac yna i’ch helpu i gael y profiad gorau o weithio gyda’r gwasanaethau gofal cymdeithasol

 

Bydd y Porth yn cynnig:

  • Cyngor ar y mathau gwahanol o eiriolaeth sydd ar gael
  • Gwybodaeth ar y mathau gwahanol o sefydliadau eiriolaeth sydd ar gael
  • Rhoi cymorth, drwy gysylltu â sefydliad eiriolaeth lleol perthnasol, drwy gyfrwng sgwrs dair ffordd neu drwy atgyfeirio ymlaen
  • Chyfeirio ymlaen at sefydliadau cymorth perthnasol eraill

 

  • 0808 801 0577

 

 

Porth Eiriolaeth Caerdydd A’r Fro 

 

Rhagor o sefydliadau eiriolaeth yng Nghaerdydd a’r Fro: