Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Gofal Tymor Hir

Mae Gwasanaeth Gofal Tymor Hir Bro Morgannwg yn cynorthwyo pobl nad oes modd iddynt fodloni eu canlyniadau lles heb gael gofal a chymorth.

 

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:

Mae'r Tîm Gwaith Cymdeithasol yn gweithio gyda phobl yn y gymuned a'u teuluoedd er mwyn eu cynorthwyo i gyflawni eu canlyniadau lles. Gallai hyn gynnwys darparu neu hwyluso cymorth ar ffurf gwaith cymdeithasol, gofal yn y cartref, gwasanaethau dydd, gofal seibiant, yn ogystal â gofal nyrsio a gofal preswyl.

Mae'r Tîm Gofal Integredig yn gweithio gyda phobl y maent yn byw mewn cartrefi gofal er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir er mwyn bodloni eu hanghenion ac er mwyn osgoi anfon pobl i'r ysbyty yn ddianghenraid.

 

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

  • Oedolion y maent yn 18 oed neu'n hŷn ac y maent yn byw ym Mro Morgannwg.
  • Y rhai y maent yn gofalu am oedolion y maent yn 18 oed ac yn hŷn (gofalwyr)

Mae'n fwy tebygol yr asesir bod angen gofal a chymorth arnoch:

  • os ydych yn hŷn neu'n eiddil
  • os oes gennych chi anabledd corfforol
  • os ydych yn oedolyn hŷn gyda materion iechyd meddwl
  • os nad oes modd i chi ddiogelu eich hun rhag niwed
  • Neu os ydych yn ofalwr sy'n cynorthwyo oedolyn neu oedolion y mae ganddynt anghenion gofal a chymorth

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae modd i gyfeiriadau gael eu gwneud gan unigolion, aelodau teuluol a ffrindiau, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill trwy gysylltu â C1V.

  

Gysylltu:

  • 01446 700111