Cost of Living Support Icon

Asesiad

Er mwyn deall sut gallwn ni gynnig y gefnogaeth fwyaf gwerthfawr ar yr adeg iawn, bydd angen i ni drafod eich sefyllfa gyda chi. Gelwir hyn yn asesiad. 

 

Mae’r broses asesu’n hyblyg yn unol â’ch anghenion, ac efallai bydd angen i amrywiaeth o weithwyr gofal cymdeithasol gydweithio wrth ei gynnal.

 

Fel arfer, bydd yr asesiad yn cynnwys cwestiynau am faterion megis:

  • Eich sefyllfa bersonol a'r problemau sydd wrth wraidd eich cais
  • Yr hyn sy'n bwysig i chi - y canlyniadau addas
  • Yr hyn sy'n eich arbed rhag cyflawni'r canlyniadau yma a beth allai eu datrys
  • Risg i chi neu i bobl eraill oni chaiff y mater ei ddatrys
  • Eich cryfderau a'ch galluoedd personol 


Mae’r asesiad yn ddarlun cyfredol ohonoch chi a’ch anghenion ar adeg benodol. Gellir ei gynnal unwaith eto ar unrhyw adeg.


Mae gennych hawl i gael rhywun i siarad ar eich rhan neu rywun i’ch cefnogi os oes angen help arnoch chi i ateb y cwestiynau yma.


Ar ôl yr asesiad, byddwn ni’n cydweithio â chi i sefydlu pa fath o gymorth fyddai’n gweddu orau i chi, pa bryd a pha mor aml yr hoffech dderbyn y cymorth hwnnw. 

 

Newidiadau i'ch sefyllfa

O bosib y bydd eich anghenion neu eich sefyllfa’n newid yn y dyfodol. Oherwydd hyn, bydd angen i ni adolygu eich cynllun ar ddyddiad sy’n gyfleus i chi, a gwirio’n rheolaidd bod y cynllun yn diwallu eich anghenion.


Bydd yr adolygiadau yma fel arfer yn digwydd:

  • Ar ôl y 4–6 wythnos gyntaf
  • Yn flynyddol
  • Pan fyddwch yn ein hysbysu bod eich anghenion wedi newid

Rhowch wybod i ni unrhyw bryd os yw eich sefyllfa’n newid, er mwyn i ni adolygu’ch cynllun a sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth priodol.

 
Byddwn ni’n gofyn am eich caniatâd i rannu gwybodaeth bersonol byddwch chi’n ei rhoi i ni â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill a fydd yn ymwneud â’ch gofal.


Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd:

  • Eich gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn modd cyfrifol a diogel
  • Rhannu gwybodaeth fel hyn yn arbed i chi ailadrodd eich hanes wrth wahanol bobl ar wahanol adegau
  • Yn eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch mor fuan ag sy'n bosibl

Mae gennych hawl i wrthod rhannu eich gwybodaeth.

Cais am Asesiad

Gallwch atgyfeirio cais i rywun sydd angen cymorth a gofal yn eich barn chi. Bydd angen i ni ofyn y cwestiynau isod am y person hwnnw:

  • Manylion cyffredinol megis enw, cyfeiriad, dyddiad geni ac oedran
  • Y rheswm dros y cais
  • Hanes meddygol/iechyd meddwl
  • Manylion cyswllt
  • Peryglon posibl

Nid oes angen i chi wybod pob dim am yr unigolyn cyn cysylltu â ni er mwyn ein hysbysu am eich pryderon. 

 

Neu cysylltwch â ni i wneud cais am asesiad:

 

  • 01446 700111