Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Synhwyrau

Darparu cefnogaeth ac arweiniad i bobl â nam ar eu golwg neu eu clyw ym Mro Morgannwg

 

Ar ôl asesiad, gallwn gynnig gwasanaethau arbenigol i bobl cymwys i fodloni eu hanghenion yn y ffordd orau.

 

Amhariadau Gweledol a Nam ar y Clyw

Ar ôl cael eu hardystio gan ymgynghorydd, gallwn gofrestru pobl yn bobl sydd â nam ar y golwg neu’r clyw, naill ai’n rhannol neu’n ddifrifol.


Yn dilyn asesiad arbenigol o’ch anghenion, gallem gynnig:

  • Hyfforddiant ac offer i hybu eich diogelwch a’ch annibyniaeth
  • Cyfeiriad at asiantaethau neu weithwyr proffesiynol eraill am wybodaeth, cyngor a gwasanaethau
  • Cymorth gofal yn eich cartref eich hun ac i’ch helpu i ddefnyddio cyfleusterau cymunedol
  • Cymorth a chyngor ar gyfer pobl ifanc 18-25 wrth iddynt symud o’r ysgol i addysg bellach a byd gwait


Rydym yn cynnig offer i bobl â theclyn clyw sy’n gweithio ar ôl iddynt gael eu hasesu gan glywedegwr yn unig, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.

Defnyddwyr Iaith Arwyddion Byddar

Ar ôl i weithwyr proffesiynol sydd â sgiliau iaith arwyddion asesu eich anghenion, gallwn gynnig:

  • Gwybodaeth a chyngor yn Iaith Arwyddion Prydain
  • Cymorth a chyngor ar gyfer pobl ifanc 18-25 wrth iddynt symud o’r ysgol i addysg bellach a byd gwaith
  • Cofrestru pobl gyda’r awdurdod lleol
  • Offer arbenigol i hybu annibyniaeth
  • Cysylltu ag asiantaethau eraill gan gynnwys hybu cyfle cyfartal o ran sicrhau gwasanaethau ar gyfer pobl Fyddar
  • Gwasanaethau gofal – gofalwr cartref a gweithwyr cymorth arbenigol â sgiliau Iaith Arwyddion Prydain sydd wedi cael hyfforddiant cydraddoldeb byddar/ymwybyddiaeth am fyddardod


Os ydych yn adnabod rhywun a all fod angen ein help a’n cymorth, ffoniwch ni ar:

  • 01446 700111

 

Dewis Cymru Logo WelshGwybodaeth am wasanaethau a chymorth ar gyfer pobl sydd â nam ar y golwg neu’r clyw ym Mro Morgannwg.

 

Dewis Cymru