Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro (GAI) yn wasanaeth awtistiaeth arbenigol amlasiantaethol sydd â staff iechyd ac awdurdod lleol.

 

Sefydlwyd y gwasanaeth yn dilyn darparu cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig ledled Cymru. Mae'r gwasanaeth yn cysylltu'n agos â sefydliadau lleol eraill, ac Arweinydd Project strategaeth Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth (ASA) Caerdydd a'r Fro.

 

Integrated Autism Service

Ein dwy rôl bennaf yw:

  • Cydgysylltu â gwasanaethau prif ffrwd i gynyddu eu sgiliau wrth weithio gyda phobl ag awtistiaeth

  • Chynnig gwasanaethau triniaeth diagnostig ac ataliol i bobl ag ASA a'u gofalwyr na fyddai eu hanghenion yn cael eu diwallu fel arall gan wasanaethau eraill.

 

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (GAI) Caerdydd a’r Fro

 

Manylion Cyswllt

Oriau agor:

Dydd Llun i ddydd Iau: 9.30am - 4.30pm
Dydd Gwener: 9.30am - 4.00pm

 

Sylwer: Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio rhif ffôn symudol dros dro. I siarad â'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ffoniwch 07970 647820 neu gallwch gysylltu â ni drwy e-bost yn cav.ias@wales.nhs.uk

 

 

Ysgrifennwch aton ni: 
Gweinyddwr GAI Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
Avon House
19 Stanwell Road
Penarth
CF64 2EZ