Sut i fod yn westeiwr
Gall unrhyw un dros 18 oed ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg neu Ben-y-bont ar Ogwr wneud cais i fod yn westeiwr.
Does dim angen unrhyw gymwysterau na phrofiad o weithio yn y sector gofal (er gall helpu). Y cyfan sydd ei angen arnoch yw'r gwerthoedd cywir, ymroddiad a ‘stafell sbâr. Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion neu gyplau.
I ddod yn westeiwr llenwch ffurflen gais:
Bywydau a Rennir Bro Morgannwg
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn symud ymlaen at asesiad llawn sy'n cynnwys gwiriadau amrywiol. Ar ôl cwblhau'r asesiad hwn, byddwn yn cyflwyno ein hadroddiad i Banel Cymeradwyo Annibynnol a fydd yn penderfynu a ydyn nhw'n cytuno â ni. Os yw pawb yn cytuno, byddwch yn dod yn westeiwr cymeradwy ac yn cael eich croesawu i'n tîm.