Chwefror 2016 Newyddion
Y Newyddion Diweddaraf o'r Cyngor
Mae’r gwaith o godi ardal chwarae ar gyfer Castleland yn y Barri yn mynd yn ei flaen yn dda ac mae disgwyl y bydd wedi ei gwblhau erbyn gwyliau'r Pasg.
Gyda chefnogaeth gan Gymunedau’n Gyntaf y Barri, perfformiodd disgyblion amryw o ysgolion cynradd ac uwchradd y Barri ddigwyddiad cerddorol a gweledol anhygoel yn Ysgol Gyfun y Barri yn ddiweddar.
Mae Cymunedau Gwledig Creadigol (CGC), sef tîm adfywio gwledig Cyngor Bro Morgannwg, yn lansio Pecyn Cymorth Mapio Cymunedau ddydd Iau 9 Mawrth 2017, 6pm tan 8pm (bydd y siaradwyr yn dechrau am 6.30pm), Yng Ngwesty’r Arth, Y Bont-faen. Mae croeso i bawb a bydd lluniaeth ar gael.
DIOLCHODD Cyngor Bro Morgannwg i blentyn chwech oed ar ôl wedi i Ysgol Gynradd Fairfield roi dros 60 o Fagiau Cynnes i bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ne Cymru o ganlyniad i’w ymgyrch i helpu pobl ddigartref.
Mae preswylydd ym Mro Morgannwg wedi goresgyn ei gyfyngiadau symudedd a dod y ferch gyntaf yng Nghymru sy’n defnyddio cadair olwyn i gael belt du Karate.
Mae gwaith gwella ar gyfleusterau hamdden Gerddi Gladstone y Barri wedi dirwyn i ben yn foddhaol, gyda’r clwydi yn agor i’r cyhoedd yr hanner tymor hwn.
Daeth oedolion sy’n dysgu yng Nghanolfan Addysg Oedolion Gymunedol Palmerston ynghyd yn ddiweddar ar gyfer y seremoni gyflwyno gwobrau flynyddol.
MAE disgyblion o Ysgol Gynradd Tregatwg wedi bod yn paentio bocsys adar a'u rhoi mewn coed o amgylch Parc Fictoria - un o lawer o leoedd awyr agored ym Mro Morgannwg sydd wedi ennill y wobr Baner Werdd.
Mae gwaith ar gynllun £500,000 i wella’r rhwydwaith priffyrdd yn Ninas Powys wedi ei gwblhau, a’r gyffordd newydd dros y comin wedi ei hagor yn swyddogol i’r cyhoedd.
Mae cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cynnig cynyddu’r dreth gyngor i’r sir gan 2.8%.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau gwaith ar ei ddatblygiad tai Cyngor newydd cyntaf ers 17 mlynedd yn Francis Road, y Barri.
MAE’R Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir , y corff sy’n gyfrifol am orfodi pethau fel rheoliadau diogelwch bwyd ledled y Fro, wedi bod yn rhoi cyngor i fusnesau ar sut i gwrdd â safonau mewn digwyddiad gorlawn yn y Stadiwm Principality.
Bydd tîm rygbi cyffwrdd newydd yn cynnig cyfle i ferched Bro Morgannwg i efelychu eu harwyr rygbi.
Mae nifer o glybiau a sefydliadau chwaraeon wedi elwa’n ddiweddar o gyfanswm o £17,927 o roddion o’r Gist Gymunedol.
BYDD arddangosfa ar erchylltra’r holocost yn yr Oriel Gelf Ganolog, sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Bro Morgannwg, yn dod i ben cyn bo hir.
Mae gwaith adeiladu bellach yn mynd rhagddo ar chwe llain pêl-droed artiffisial ar gyfer Bro Morgannwg yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot yn y Barri.
Mae Is-adran Gwasanaethau Masnachol y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi cynnal digwyddiad yr wythnos hon ar gyfer rheolwyr a staff gofal sy’n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i helpu i godi safonau iechyd a diogelwch.
Bydd tîm Datblygu Chwarae a Chwaraeon Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal digwyddiad chwaraeon yn ystod hanner tymor, gyda’r bwriad o annog mwy o ferched i ymarfer corff.
Mae Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn parhau i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru i annog cefnogwyr i wylio rhag tocynnau ffug ar gyfer y Chwe Gwlad.
Mae safle gofal preswyl newydd yn y Barri sy’n pontio rhwng ysbytai a'r cartref wedi ei agor yn swyddogol yr wythnos hon gan y Cyng. Bronwen Brooks.
Bydd Parc Gwledig Porthkerry Bro Morgannwg yn cynnal digwyddiad gyda chymorth Cronfa'r Loteri Treftadaeth yn llawn gweithgareddau awyr agored.
Bu i Lyfrgell y Bont-faen gynnal y drydedd Noson Lyfrau Harry Potter flynyddol yn ddiweddar, a chafwyd noson fythgofiadwy o hud a lledrith i fenthycwyr llyfrau ifainc ar hyd y Fro.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi uno gyda Legacy Leisure i gefnogi nifer o dalentau chwaraeon ifanc ledled y Fro.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymuno â siop gelfi The Place For Homes yn Llandŵ i gynnig cadeiriau a soffas am ddim i’r rhai mwyaf anghenus o fewn y Sir.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi trosglwyddo llyfrgell Y Rhws a’r gwaith o gynnig gwasanaethau’r llyfrgell ar gyfer y Rhws a’r pentrefi cyfagos i grŵp cymunedol dan arweiniad y Cyng. Jeff James.
Mae Ysgol Gynradd PALMERSTON wedi cael archwiliad yn ddiweddar, gan ennill sgôr Rhagorol mewn llawer o adrannau.
MAE Llwyfan Golygfa Trwyn Penarth wedi ailagor wedi i arolygon gadarnhau ei fod yn ddiogel ar gyfer y cyhoedd.
Mae parciau ym Mhenarth i gael cylchfannau i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, wrth i ddyluniadau gwreiddiol gael eu haddasu er mwyn uwchraddio'r meysydd.
Mae Cyngor Bro Morgannwg gyda Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ariannu Astudiaeth i archwilio materion a chyfleoedd rhwydwaith trafnidiaeth ar gyfer Dinas Powys.
Mae Gwasanaethau Gwirfoddol MORGANNWG yn cynnal Cymhorthfa Gyllid gyda Chwaraeon Cymru, gyda’r bwriad o helpu trigolion gyda’u projectau chwaraeon a gweithgareddau corfforol.