Cost of Living Support Icon

Cyfoeth cist gymunedol yn rhoi hwb i glybiau chwaraeon y Fro

 

17 Chwefror 2017


Mae nifer o glybiau a sefydliadau chwaraeon wedi elwa’n ddiweddar o gyfanswm o £17,927 o roddion o’r Gist Gymunedol.


Defnyddir yr arian hwn i ddatblygu cyfleoedd chwaraeon ac ymarfer corff presennol a chreu rhai newydd ym Mro Morgannwg.


Ariennir cynllun y Gist Gymunedol gan Chwaraeon Cymru ac fe’i rheolir yn lleol gan Dîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae’r Cyngor. Bu'r tîm yn cynorthwyo clybiau sy'n ceisio cynyddu cyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau corfforol ar gyfer preswylwyr lleol mewn amrywiaeth o chwaraeon.


Mae’r cynllun hefyd yn cyfrannu at amcanion y Cyngor o gynyddu iechyd a lles ymysg ei breswylwyr a gwella sgiliau ac addysg.


Mae Clwb Badminton Iau'r Barri, sydd newydd ei ffurfio, yn un o’r sefydliadau llwyddiannus a dderbyniodd arian, a bydd yn defnyddio’r arian hwn ar gyfer costau llogi cyfleusterau, i anfon ei hyfforddwyr ar gyrsiau hyfforddi ac i brynu offer.


Bydd clwb badminton arall yn elwa diolch i'r Gist Gymunedol: Bydd Clwb Badminton Ardal Penarth a Dinas Powys, oherwydd llwyddiant eu sesiynau iau blaenorol, yn cyflwyno sesiynau ychwanegol yng Nghanolfan Hamdden Penarth a byddant yn targedu plant rhwng 12 a 16 oed.


Yn y cyfamser, mae nifer o glybiau wedi derbyn arian i gyfrannu at un o flaenoriaethau panel y Gist Gymunedol: addysg hyfforddwyr a dyfarnwyr. 


Bydd hyn yn rhoi’r gallu i glybiau anfon eu gwirfoddolwyr ar gyrsiau hyfforddi, yn cynnwys hyfforddiant penodol i chwaraeon, cymorth cyntaf a hyfforddiant diogelu plant a chyrsiau dyfarnwyr. 

 

Mae’r clybiau eraill a fu’n llwyddiannus yn y rownd hon yng nghynllun y Gist Gymunedol yn cynnwys Clwb Achub Bywyd Môr Pen-y-Bont, Clwb Nofio i Bobl Anabl y Barry Beavers, Clwb Tenis Windsor Lawn, Clwb Bowlio Barry Athletic a Chlwb Taekwondo’r Barri.   


At sylw’r rhai hynny sy’n cynrychioli clybiau ar hyd Bro Morgannwg sydd ag angen cymorth ariannol, bydd yn rhaid cyflwyno ceisiadau’r rownd nesaf am arian o’r Gist Gymunedol erbyn 30 Mawrth a bydd y panel yn cyfarfod ar 13 Ebrill ac yn penderfynu pwy fydd yn derbyn cyfrannau o’r arian.


Dylai pobl â diddordeb gysylltu’n gyntaf â Thîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae ar 01446 704793 i sicrhau bod eu project yn gymwys am arian.