Cyngor Bro Morgannwg yn diolch i blentyn chwech oed am helpu pobl ddigartref
27 Chwefror 2017
DIOLCHODD Cyngor Bro Morgannwg i blentyn chwech oed ar ôl wedi i Ysgol Gynradd Fairfield roi dros 60 o Fagiau Cynnes i bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ne Cymru o ganlyniad i’w ymgyrch i helpu pobl ddigartref.
Dim ond dyflwydd oed oedd Gethin Pritchard, disgybl yn Fairfield, pan welodd e bobl yn eistedd yn y stryd yng Nghaerdydd a gofyn i'w fam, Tammy amdanyn nhw.
Pan ddysgodd e nad oedd ganddyn nhw unrhyw le i fyw, roedd Gethin yn poeni ac yn dymuno helpu.
Gyda chymorth ei frawd, Zak, a’i chwiorydd, Alissa ac Ellie-Mai, aeth rhoddion o ddiodydd poeth yn fwyd ac yna’n docynnau anrheg ar gyfer siopau coffi a phoptai lleol.
Ond nid dyma oedd diwedd y gân i Gethin.
Gofynnodd e i’w gyd-ddisgyblion ei helpu, a chyda'i gilydd, dechreuon nhw gasglu mwy fyth o bethau i bobl ddigartref.
Cawson nhw gyfanswm o 64 o fagiau cymorth, gan gynnwys pethau fel hetiau thermal, sgarffiau, menig, pethau ymolchi ac eitemau eraill gan rieni a dosbarthodd elusen Huggard nhw yn y stryd.
Ymunodd busnesau â’r ymgyrch hefyd, a chododd Lenstec Optical Group yng Nghaerffili dros £200 tuag at eitemau i'w rhoi yn y bagiau.
Bellach, mae Gethin a'i ffrindiau ysgol yn cynllunio project a fydd hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol, sef casglu bagiau cysgu sy’n dal dŵr a phebyll i bobl ddigartref.
Cafodd Gethin a disgyblion eraill yr ysgol dystysgrifau arbennig gan Ddirprwy Arweinydd Cyngor y Fro, Lis Burnet, am eu gwaith caled.
“Pan glywon ni am yr hyn yr oedd Gethin a'i gyd-ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Fairfield wedi'i wneud, roedden ni’n teimlo bod angen ei gydnabod," meddai'r Cynghorydd Burnett.
“Gyda chymorth a chefnogaeth yr ysgol, mae’r disgyblion hyn yn enghraifft dda iawn o ddinasyddiaeth dda. Maen nhw wedi dangos cryn empathi, ac nhwythau mor ifanc. Maen nhw’n glod iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd a’r ysgol. Fel cyn-ddisgybl yr ysgol, roeddwn i wrth fy modd yn cael ymuno â Phrif Weithredwr Canolfan Huggard mewn gwasanaeth ysgol arbennig i gyflwyno Tystysgrifau Ymwybyddiaeth Gymdeithasol i'r disgyblion am eu gwaith caled.”
Dywedodd Tammy Pritchard: “Bu’r ysgol yn wych yn cymryd rhan ac yn helpu gyda phopeth. Soniais i amdano fe wrth un athro, ac roedden nhw’n meddwl ei fod yn syniad gwych. Yna, cyflwynais i’r cynnig i Gyngor yr Ysgol a oedd yn gefnogol iawn hefyd."
Dywedodd Tony Pritchard, tad Gethin: “Pan feddyliodd Gethin am fagiau, roedden ni mewn penbleth braidd ynglŷn â sut y dylen ni fynd o’i chylch hi.
“Yn ffodus, roedd yr ysgol yn wych. Hebddyn nhw, fyddai hyn ddim wedi digwydd.
“Aeth rhai o deuluoedd y plant i ymdrechion mawr. Cawson ni siacedi, trowsus a hwdis. Fe hoffen ni ddiolch yn fawr iddyn nhw."
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Fairfield, Siân Lewis: “Daeth Mrs Pritchard a Gethin aton ni i drafod y syniad ac roedd Cyngor yr Ysgol yn gefnogol iawn o'r fenter yn syth.
“Bu i ni drafod y syniad gyda’r plant, a chawson ni ymateb da iawn ganddyn nhw a’u teuluoedd. Cawson ni lawer iawn o bethau ac rydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw, yn enwedig Gethin.
“Rydyn ni’n trafod dinasyddiaeth dda a gwerthoedd gyda’r plant fel rhan o’r cwricwlwm. Mae hwn enghraifft dda iawn o sut mae rhoi hynny ar waith."
Dywedodd Prif Weithredwr Huggard, Richard Edwards: “Mae rhywbeth fel hyn yn sicr yn codi ymwybyddiaeth, a ‘dw i’n meddwl mai dyma’r peth pwysicaf am yr holl beth.
“Mae hwn yn gam cyntaf pwysig iawn o ran cael pobl i sefyllfa lle maen nhw eisiau gwneud rhywbeth. Ar ôl hyn, mae’n fater o feddwl am y peth mwyaf effeithiol y gallwn ni ei wneud i ddod â rhywun oddi ar y strydoedd.”