Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Ar 18 Chwefror bydd coedlannau Millwood yn y parc gwledig yn croesawu ceffylau gwedd ac arddangosiadau torri coed yn ogystal ag arddangosiadau rhyngweithiol eraill.
Bydd ymwelwyr i’r parc yn gallu gwneud bwrdd adar, gwylio, a chymryd rhan mewn gweithgaredd gwehyddu helyg, cymryd rhan mewn gweithdy bwyell a llifio a gweithgareddau coedwraeth.
Mae’r digwyddiad torri coed am ddim, gydag ymwelwyr yn cael eu cynghori i barcio yn y prif faes parcio, neu gerdded i ardal Sawmill a Millwood Cwm Ciddi o’r parc. Cynghorir ymwelwyr i wisgo esgidiau glaw, gan fod yr ardal y bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal yn debygol o fod yn fwdlyd.
Mae Parc Gwledig Porthkerry yn cynnwys 200 acer o goedlannau a doldir mewn dyffryn cysgodol, sy'n arwain at draeth cerigos gyda chlogwyni trawiadol. Mae gan y parc nifer o lwybrau natur, safleoedd picnic, caffi, ardal chwarae, ardaloedd barbeciw a chwrs golff bach.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad torri coed, neu Barc Gwledig Porthkerry yn gyffredinol, ffoniwch 01446 733589, neu e-bostiwch Porthkerry@valeofglamorgan.gov.uk.