Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae un wythnos ar ôl i fynd i weld yr arddangosfa cyn iddi orffen ddydd Sadwrn, 25 Chwefror. Mae Celf Ganolog ar agor rhwng 10am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 10am i 3.30am ddydd Sadwrn.
Wedi’i hysbrydoli gan ddyfyniadau unigol gan bobl ledled y byd, mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfres o ddatganiadau a gwaith celf gan artistiaid, unigolion a sefydliadau sydd wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd Coffau’r Holocost dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mae’r datganiadau'n effeithio ar y gynulleidfa, yn eu hannog i adlewyrchu ar eu bywydau eu hunain a phroblemau parhaus y byd.
Mae’r oriel hefyd yn cynnal arddangosfa o’r enw ‘Drwy Lygaid Plant’ gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Grwpiau Cyswllt Sipsiwn.
Mae’r arddangosfa hon yn adrodd hanes yr hil-laddiad Romani, Porrajmos, o bersbectif y bobl ifanc a oedd yn dyst i beth oedd yn digwydd dros y cyfnod ofnadwy hwn. Mae’r arddangosfa’n dilyn hanes plant Roma drwy rai o ddigwyddiadau mwyaf erchyll hanes yr 20ed ganrif.
Gwnaeth Dirprwy Faer Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Eddie Williams a’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Lis Burnett helpu i lansio’r arddangosfa, pan ddarllenodd yr Athro Emeritus Tony Curtis ei gerdd benigamp ‘Soup’ am bryd dychmygol rhwng mam a merch