Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Agorwyd y llwyfan gyntaf ym mis Mai 2015 ond bu’n rhaid i’r tirnod, sydd wedi ei seilio ar logo siâp cragen Llwybr Arfordir Cymru, gau oherwydd bod craciau yn un o'r waliau ochr ar hyd cymal ehangu.
Ond mae gwaith ymchwil ar y strwythur wedi dangos nad yw wedi dirywio ymhellach a hefyd does dim tystiolaeth yn awgrymu bod y tir yn symud o amgylch y nodwedd, felly mae rhwydd hynt i ymwelwyr ei ddefnyddio eto.
Bydd y Cyngor yn parhau i fonitro’r safle a gweithio â’r contractwyr a adeiladodd y llwyfan er mwyn trwsio unrhyw graciau yn y dyfodol agos.
Bydd y ffens a godwyd ger ymyl y clogwyn yn aros oherwydd rhesymau diogelwch.
Mae’r gwaith datblygu wedi bod yn mynd rhagddo ar y llwyfan golygfa erstalwm. Awgrymodd Cymdeithas Twristiaeth ac Ymwelwyr Penarth osod tirnod ym Mharc Trwyn Penarth tua 2011.
Fel rhan o raglen cenedlaethol o waith i ddathlu Llwybr Arfordir Cymru, ariannwyd y project gan grant Llywodraeth Cymru.
Mae’r llwyfan yn uwch na lefel y tir er mwyn rhoi golygfa well dros y waliau ffin ac mae mynediad cadair olwyn.
Dywedodd y Cyng. Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Rwyf wrth fy modd bod Llwyfan Golygfa Trwyn Penarth bellach wedi ailagor i'r cyhoedd. Mae’n cynnig cyfle gwych i ymwelwyr weld rhan o'r olygfa drawiadol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru."