Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Bydd grŵp Llyfrgell Gymunedol y Rhws yn cynnig gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth i aelodau’r llyfrgell a bydd yn ceisio datblygu cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol newydd ar gyfer y gymuned.
Roedd tri o ymddiriedolwyr y grŵp, Chris Economides, Hugh Jupp a’r Cyng. James, yno yn ystod trosglwyddo’r cyfleuster yn swyddogol yng nghanolfan gymunedol Y Rhws ar 31 Ionawr.
Dywedodd y Cyng. Jeff James, Cadeirydd Llyfrgell Gymunedol y Rhws: “Mae Llyfrgell Gymunedol y Rhws yn elusen gofrestredig sy’n gwbl ddibynnol ar dîm o wirfoddolwyr hyfforddedig ac ymroddgar.
“Yn ogystal â chadw’r llyfrgell ar agor, rydym yn bwriadu hyrwyddo defnydd cymunedol ehangach gyda gweithgareddau megis dosbarthiadau addysg i oedolion, clybiau llyfrau ac adrodd straeon.”
Dywedodd y Cyng. Lis Burnett: “Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes Llyfrgell y Rhws. Dylid canmol aelodau’r gymuned a gamodd ymlaen i gymryd y cyfrifoldeb dros gynnal y gwasanaeth.
“Mae llyfrgelloedd eraill y Fro sydd wedi eu trosglwyddo i grwpiau cymunedol wedi ffynnu ac rydym yn gobeithio y cawn yr un llwyddiant yn llyfrgell y Rhws gyda chefnogaeth barhaus Cyngor Bro Morgannwg.”
Dylai unrhyw un sydd am wirfoddoli i helpu i gynnal y llyfrgell gysylltu â’r llyfrgell yn ystod oriau gwaith. Dyma fydd oriau agor y llyfrgell: