Gwaith yn mynd rhagddo ar leiniau pêl-droed 3G newydd ar gyfer y Barri
16 Chwefror 2017
Mae gwaith adeiladu bellach yn mynd rhagddo ar chwe llain pêl-droed artiffisial ar gyfer Bro Morgannwg yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot yn y Barri.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn buddsoddi £617,000 mewn chwe llain pêl-droed bob tywydd newydd sbon a bu Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Neil Moore, y Dirprwy Arweinydd, y Cyng. Lis Burnett, a’r Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Gweladwy a Hamdden, y Cyng. Gwyn John, ar ymweliad â’r ganolfan yr wythnos hon i edrych ar gynnydd y gwaith.
Dywedodd y Cyng. John: “Yr allwedd i sicrhau bod pobl yn fwy actif ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel yw drwy gynnig cyfleusterau o safon sy’n agored i bawb.
“Ar adeg gosod yr arwyneb chwaraeon newydd ym Mharc Jenner dywedom mai hwn oedd y cam cyntaf yn y cynllun i sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn y Fro. Cam dau yw hwn. Bydd y lleiniau hyn yn galluogi trigolion o bob oedran i chwarae pêl-droed pump a saith-bob-ochr ym mhob tywydd ac ar bob adeg o’r flwyddyn.
“Yn ogystal ag agor y lleiniau i ysgolion lleol rydym yn gobeithio cydweithio â Legacy Leisure i sefydlu cynghrair pump-bob-ochr newydd ar gyfer y Fro. Dylai hyn sicrhau y bydd chwaraewyr o bob oedran a gallu yn cael budd o’r buddsoddiad sylweddol hwn gan y Cyngor.”
Bydd pedwar llain pump-bob-ochr a dwy lain saith-bob-ochr, y gellir hefyd eu defnyddio fel pedair llain pump-bob-ochr ychwanegol i blant. Bydd y lleiniau newydd yn defnyddio arwynebau 3G artiffisial o ansawdd uchel, yn debyg iawn i’r rheiny a ddefnyddir mewn canolfannau pump-bob-ochr ledled y wlad.
Bydd yr holl leiniau dan lifoleuadau ac yn cael eu hamgylchynu’n llwyr â system ffensio arloesol sy’n gweithredu fel bordiau adlam ac a fydd hefyd yn galluogi gwylwyr i weld popeth sy’n digwydd.
Dywedodd y Cyng. Neil Moore: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol arall yn y gwasanaethau hamdden lleol a gynigir gan Gyngor Bro Morgannwg. Rwy’n disgwyl y bydd y lleiniau newydd yn boblogaidd dros ben ac yn ychwanegu cyfleuster hamdden penigamp arall at y rheiny sydd eisoes ar gael yn y Barri. Alla i ddim disgwyl eu gweld yn cael eu defnyddio a’u mwynhau pan fyddant yn cael eu hagor i’r cyhoedd yn ddiweddarach eleni."
Disgwylir i’r gwaith o adeiladau’r lleiniau newydd gael ei gwblhau ar ddechrau’r haf.