Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Caiff yr arian ei wario ar ddadansoddi rhwydwaith trafnidiaeth bresennol y pentref, gyda’r bwriad o nodi unrhyw faterion a ffyrdd o'u datrys.
Mae trafodaethau wedi bod rhwng swyddogion y Cyngor a swyddogion Llywodraeth Cymru ar y pwnc am nifer o wythnosau.
Penderfynwyd y cynhelir astudiaeth o’r materion a’r cyfleoedd rhwydwaith trafnidiaeth yn Ninas Powys yn ystod y misoedd i ddod gydag arian ar gyfer yr Astudiaeth yn dod o'r ddau barti. Cost yr Astudiaeth fydd tua £15 000.
Dywedodd y Cyng. Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Adeiladu, Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rydym yn ymwybodol o bryderon trigolion ynghylch y sefyllfa draffig yn Ninas Powys.
“Ar ôl trafodaethau llwyddiannus, rydym yn falch o gyhoeddi, gyda Llywodraeth Cymru, y byddwn yn cynnal astudiaeth eang o’r rhwydwaith trafnidiaeth yn Ninas Powys. Yn rhan o’r broses hon ymgynghorir â chynrychiolwyr y gymuned leol a bydd cyfleoedd i bobl gyflwyno eu syniadau a gaiff eu hystyried. Rydym yn gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn nodi atebion realistig y gallwn ni eu gweithredu i’r materion a nodwyd.”