Cost of Living Support Icon

Cynllun Cyflawni Blynyddol 2024-2025

Mae ein Cynllun Cyflawni Blynyddol (ADP) yn nodi ein blaenoriaethau a’n bwriadau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

 

Dyma'r pumed Cynllun Cyflawni Blynyddol (CCB) ar gyfer Cynllun Corfforaethol 2020-2025 y Cyngor, Gweithio gyda'n Gilydd am Ddyfodol Disgleiriach. Mae'r ymrwymiadau a nodir yn ein Cynllun Corfforaethol yn rhai hirdymor a bob blwyddyn rydym yn nodi mewn CCB y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni’r ymrwymiadau hynny.  Mae hyn yn helpu i ddangos ein cynnydd a'n ffocws ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Bydd y camau y byddwn yn eu cymryd dros y flwyddyn i ddod yn cyfrannu at y gwaith o gyflawni ein pedwar Amcan Lles a'n gweledigaeth Cymunedau Cryf â Dyfodol Disglair.  Mae ein cynlluniau wedi'u siapio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a gallwch ddarllen mwy am hyn yn y Cynllun Corfforaethol. Mae'r Amcanion hefyd yn creu'r fframwaith i ddangos sut y byddwn yn sicrhau gwelliant parhaus ac yn adrodd ar ein cynnydd yn unol â gofynion y Mesur Llywodraeth Leol.

 

Ein Hamcanion Llesiant:

 

 

Beth yw'r Cynllun Cyflawni Blynyddol? 

Gwyliwch y fideo byr hwn i ddarganfod beth yw'r Cynllun Cyflawni Blynyddol (CCB) a pha ymrwymiadau rydyn ni wedi'u gwneud:

 

 

Datblygu'r Cynllun Cyflawni Blynyddol

Mae'r camau gweithredu a nodir yn CCB eleni’n adlewyrchu'r hyn y mae trigolion, partneriaid, aelodau etholedig a staff wedi'i ddweud wrthym drwy wahanol weithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori drwy gydol y flwyddyn.

 

Bydd yr ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y Cynllun drafft hwn yn siapio ein Cynllun terfynol ar gyfer 2024-2025.

 

Mae'r camau gweithredu hefyd yn adlewyrchu canfyddiadau gwaith ein rheoleiddwyr, y wybodaeth yn ein Hadroddiad Hunanasesiad Blynyddol 2022/23, perfformiad y Cyngor yn y cyd-destun cenedlaethol ac Asesiad Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn ogystal ag Asesiad Anghenion y Boblogaeth a gwblhawyd gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh).  Mae'r Cyngor yn gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector eraill fel rhan o'r BGC ac mae Amcanion Lles y Cyngor yn cyd-fynd ag Amcanion Lles newydd y BGC.  

 

Cyflawni a Monitro'r Cynllun

Adlewyrchir camau gweithredu’r CCB yng Nghynlluniau Gwasanaeth y Cyngor sy'n dangos sut y bydd pob adran o'r Cyngor yn gweithio i gyfrannu at ein Hamcanion Lles. Mae targedau wedi'u pennu ar gyfer cyflawni'r camau gweithredu hyn.

 

Caiff gwaith y Cyngor ar y Cynllun Corfforaethol ei fonitro'n rheolaidd drwy asesu cynnydd yn erbyn ei weithredoedd a'i ddangosyddion perfformiad er mwyn galluogi cynghorwyr i graffu ar gynnydd a'i oruchwylio. Adroddir ar hyn i'r Pwyllgorau Craffu a'r Cabinet bob chwarter. Defnyddir Cynlluniau Gwasanaeth hefyd i ddatblygu Cynlluniau Tîm ac i lywio ein gwerthusiadau staff drwy'r broses #amdanafi.

 

Cymryd Rhan

Mae llawer o ffyrdd o ddylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau yn y Cyngor. Gallwch gymryd rhan trwy ymuno â’n panel dinasyddion, Barn Bro Morgannwg, a chymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar ein gwaith a gwaith ein partneriaid.

 

Mae ein Pwyllgorau Craffu yn agored i'r cyhoedd ac maent yn rhoi cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Cyngor. Gallwch wneud cais i Bwyllgor ystyried gwasanaeth neu fater drwy gwblhau ffurflen. Gallwch hefyd gofrestru i siarad mewn Pwyllgorau Craffu.

 

Rydym yn croesawu adborth am ein gwaith a gallwch gysylltu â ni yn: