Cost of Living Support Icon

Ategu dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy

 

Rydym yn Gyngor sy’n deall pwysigrwydd poblogaeth addysgedig a medrus gan helpu pobl o bob oedran i ddatblygu a dysgu. Rydym wedi ymrwymo i annog dyheadau pobl a sicrhau bod unigolion a chymunedau’n gallu ffynnu a chyflawni eu gorau.

 Amcan dau: Ategu dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy

 

Rydym yn cydnabod mai’r ffordd orau allan o dlodi neu anawsterau ariannol i lawer yw drwy gyflogaeth a chyflog teg sy’n cyd-fynd â’r costau byw.  Byddwn yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i hyrwyddo twf economaidd ar gyfer yr ardal. 

 

Mae’r gweithgareddau a wneir i gyflawni’r Amcan hwn yn cydnabod pwysigrwydd cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu priodol i bobl o bob oedran.  Byddwn yn buddsoddi yn ein hysgolion ac yn blaenoriaethu lles disgyblion, gan ganolbwyntio ar eu lles corfforol a hefyd ar eu hanghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl.  Byddwn yn parhau i gefnogi pobl i gyflawni eu gorau ac i ddarparu'r cymorth angenrheidiol, er enghraifft gyda chyngor ariannol a chyflogaeth.  

 

Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau lleol, a byddwn yn gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd gan gydnabod bod angen ystyried trafnidiaeth, cynllunio a datblygu economaidd mewn cyd-destun lleol a rhanbarthol, a bod angen ei gydbwyso gydag ystyriaethau amgylcheddol wrth sicrhau y cyfleoedd gorau ar gyfer technolegau newydd ac arloesi.

 

Ymrwymiadau Cynllun Corfforaethol

 

Ymrwymiadau ein Cynllun Corfforaethol yw:

  •  

    Sicrhau bod mynediad priodol at ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar, meithrin ac addysg o safon gan alluogi pobl i gyflawni eu canlyniadau gorau posibl beth bynnag fo'u hoedran

  • Buddsoddi yn ein hysgolion i greu’r amgylchedd dysgu cywir i’r 21ain ganrif a chyfleusterau sydd o fudd i’r gymuned ehangach

  • Gweithio gydag ysgolion, teuluoedd ac eraill i wella’r gwasanaethau a’r cymorth i’r rhai sydd ag ADY

  • Gweithio gydag addysg, darparwyr hyfforddiant, busnesau ac asiantaethau eraill i roi ystod o gyngor, cymorth a chyfleoedd hyfforddiant sy’n gwella sgiliau pobl a’u parodrwydd at waith

  • Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau y gall pobl gael gafael ar gyngor, gwybodaeth a chymorth dyledion ariannol sy’n ymwneud â thai, budd-daliadau, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

  • Cefnogi a hyrwyddo gwirfoddoli a dysgu cymunedol gan gydnabod ystod y buddion i unigolion a’r gymuned

  • Gweithio’n rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu cynllunio strategol a mentrau trafnidiaeth ac i hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy a chyflogaeth

  • Ategu twf economaidd drwy adfywio, seilwaith gwell a chymorth i ganol trefi, twristiaeth a diwydiant

 

 

Camau Gweithredu'r Cynllun Cyflawni Blynyddol

 

Yn 2023-24 byddwn yn:

 

  1. Gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi’n effeithiol i sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer yr holl ddysgwyr. 

  2. Gweithio gyda'n hysgolion a'n partneriaid i weithredu'r dull gweithredu ysgol gyfan o ran iechyd meddwl a lles a sicrhau bod cymorth ac arweiniad priodol yn cael ei ddarparu er mwyn bodloni anghenion gwahanol blant a phobl ifanc.

  3. Cefnogi ein hysgolion i hwyluso’r broses o  weithredu’r diwygiad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) fesul cam gan gynnwys gwaith o amgylch hunan-werthuso. 

  4. Cefnogi ein hysgolion i leihau gwaharddiadau a gwella presenoldeb gan gydnabod effeithiau tymor hir COVID-19 a’r argyfwng costau byw.  

  5. Parhau â’r gwaith ar gynlluniau buddsoddi mewn ysgolion gan gynnwys ehangu Ysgol Y Deri, adeilad ysgol newydd yn Sain Nicolas, ehangu capasiti cynradd yn y Bont-faen a gwaith dylunio ar gyfer Sant Richard Gwyn fel rhan o'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

  6. Adolygu a diwygio ein cynnig gwasanaeth cymorth craidd i ysgolion, gan gynnwys TG, AD, glanhau, gwasanaethau adeiladau a gwasanaethau gwastraff.

  7. Gweithio gydag eraill gan gynnwys busnesau allweddol, sefydliadau dielw preifat i gefnogi cyflogaeth a’r gwaith o ddatblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol gan gynnwys cyflwyno mentrau a chyfleoedd â thâl yn y Cyngor ar gyfer prentisiaethau, hyfforddiant a chyflogaeth. 

  8. Gweithio gyda Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddatblygu strategaethau rhanbarthol a lleol ar gyfer trafnidiaeth, cynllunio a datblygu economaidd gan gynnwys cyfnewidfeydd trafnidiaeth ar gyfer y Barri a phrosiectau mawr fel parc ynni Aberddawan a Phorth y Barri a thwf parhaus Ardal Fenter Bro Tathan a Maes Awyr Caerdydd.

  9. Manteisio i’r eithaf ar gyllid allanol fel cyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a chyllid Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU i gefnogi cynaliadwy twf economaidd a chymunedau ar draws y Fro.

  10. Gweithio ar y cyd i ddatblygu a gweithredu strategaethau ledled y Fro sy'n hyrwyddo gofod cyflogaeth newydd a chefnogi busnesau lleol, twristiaeth, mentrau cymdeithasol a chymunedau gan gefnogi blaenoriaethau amgylcheddol ac economaidd.