Cost of Living Support Icon

Gweithio gyda, a thros ein cymunedau 

 

Rydym yn gyngor modern a blaengar sy’n croesawu arloesi ac yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod gwasanaethau’n bodloni anghenion ei drigolion a’i gymunedau lleol. Rydym wedi ymrwymo i fodloni anghenion y genhedlaeth hon ac i adael etifeddiaeth gadarnhaol i genedlaethau’r dyfodol.

 

Amcan un Gweithio gyda, a thros ein cymunedau

 

Mae angen i ni fod yn wydn, yn arloesol ac yn ymatebol i anghenion gwahanol ein cwsmeriaid.  Mae’r gweithgareddau y byddwn yn eu gwneud i gyflawni’r Amcan hwn yn adlewyrchu pwysigrwydd cynnwys, cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol i ddeall anghenion amrywiol y gymuned ac i ymateb iddynt. 

 

Mae'r CCB eleni’n canolbwyntio’n fwy ar weithio gyda'r gymuned a chynnig cyfleoedd i'r gymuned gymryd rhan yn y gwaith o siapio ein gweithgareddau.  Rydym yn parhau i wella ein cynnig ar-lein a newid rhai o'r ffyrdd yr ydym yn ymgysylltu â'n trigolion, gan gydnabod nad yw gwasanaethau a chyfarfodydd ar-lein yn addas i anghenion pawb ond i rai pobl maent yn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio gwasanaethau ac i gymryd rhan yn haws. 

 

Mae gwaith yr ydym wedi'i wneud i ddeall effaith yr argyfwng costau byw a’i wneud yn rhan o Asesiad Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau a byddwn yn parhau i ymdrechu i ddeall yn well y camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn. 

 

Wrth ddatblygu’r Amcan hwn byddwn yn ystyried anghenion a dyheadau gwahanol sydd gan bobl o bob oed ac o bob ardal y Fro.  Rydym yn deall, er mwyn i ni fod yn sefydliad effeithiol, bod angen i ni fod yn ystwyth a gallu addasu a bod ein staff yn un o'n hasedau gorau.  Rydyn ni hefyd yn cydnabod yr angen i adolygu gwasanaethau a sicrhau eu bod yn hyfyw, yn gynaliadwy ac yn barod at y dyfodol.  

 

Ymrwymiadau Cynllun Corfforaethol

 

Ymrwymiadau ein Cynllun Corfforaethol yw:

  • Gwella sut yr ydym yn cynnwys pobl eraill ac yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu â nhw o ran ein gwaith a’n penderfyniadau

  • Gweithio’n arloesol gan ddefnyddio technoleg, adnoddau a’n hasedau i drawsnewid ein gwasanaethau fel eu bod yn gynaliadwy i’r dyfodol

  • Datblygu ein diwylliant cryf o wasanaeth cwsmeriaid da gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gwerthoedd y Cyngor o fod yn uchelgeisiol, yn agored, yn ynghyd ac yn falch

  • Hyrwyddo cyfle cyfartal a gweithio gyda’r gymuned i sicrhau ein bod yn ymatebol i anghenion amrywiol ein cwsmeriaid

  • Hyrwyddo’r Gymraeg a chyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwr Cymraeg erbyn 2050

  •  

    Cefnogi datblygiad a lles ein staff a chydnabod eu cyfraniad at waith y Cyngor

  • Sicrhau bod gennym drefniadau llywodraethu a chraffu ar waith a chefnogi ein haelodau etholedig i gyflawni eu rolau

 

  

Camau Gweithredu'r Cynllun Cyflawni Blynyddol

 

Yn 2023-24 byddwn yn:

 

  1. Mabwysiadu strategaeth ddigidol newydd,  gwella'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebua datblygu gwasanaethau ar-lein mwy ymatebol, gan gynnwys gwelliannau ar gyfer gwasanaethau tai a'r ganolfan gyswllt cwsmeriaid a gwelliannau i'r wefan.

  2. Gwneud defnydd effeithlon ac effeithiol o asedau drwy adolygu ystâd y cyngor gan gynnwys swyddfeydd a safleoedd allweddol.

  3. Adolygu hyfywedd a chynaliadwyedd gwasanaethau mewn ymateb i heriau ariannol ac ansicrwydd sylweddol parhaus.

  4. Diwygio ein harferion caffael i sicrhau gwerth am arian i sicrhau bod ein gweithgareddau yn cyfrannu at yr economi leol, cefnogi gwaith sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a sicrhau manteision cymunedol.

  5. Gweithredu Strategaeth Pobl newydd gan ganolbwyntio'n benodol ar wella amrywiaeth ar draws y gweithlu, recriwtio a chadw, cynllunio i’r dyfodol ac ar les staff. 

  6. Gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i ddarparu a siapio gwasanaethau lleol, annog pobl i gymryd mwy o ran yn eu cymunedau lleol a’u cefnogi i geisio cyllid.  

  7. Gweithio gyda phartneriaid yn y sector preifat i helpu i ddarparu arloesedd gwasanaethau a ffynonellau buddsoddi ac arbenigedd newydd.

  8. Cyflawni ein Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd i annog a galluogi trigolion a rhanddeiliaid eraill i gymryd mwy o ran yn y broses gwneud penderfyniadau, gan ganolbwyntio'n benodol ar ymgysylltu mwy â lleisiau nas clywir yn aml.

  9. Cefnogi niferoedd cynyddol ac amrywiaeth well o bobl ifanc i fanteisio ar ystod ehangach o gyfleoedd cyfranogiad i alluogi tegwch ac amrywiaeth mewn prosesau gwneud penderfyniadau o fewn y Cyngor. 

  10. Cynnal sgyrsiau cymunedol argyfwng hinsawdd a natur gan gynnwys gwahanol grwpiau rhanddeiliaid i lywio ein cynlluniau a'n gweithgareddau ac annog newid ymddygiad cadarnhaol. 

  11. Cyflawni blwyddyn pedwar Cynllun Cydraddoldeb Strategol  y Cyngor, sicrhau statws Dinas Sy'n Dda i Bobl Hŷn i'r Fro a bwrw ymlaen â gwaith yn rhan o’r gweithredu cenedlaethol ar anabledd, hil a chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.  

  12. Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg drwy gyflwyno Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg y Cyngor a’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA).

  13. Gweithio mewn partneriaeth yn rhan o  Gyfamod y Lluoedd Arfog i gefnogi aelodau o’r lluoedd arfog, cyn-filwyr, aelodau teulu a gweddwon. 

  14. Cyflwyno rhaglen i ddatblygu a chefnogi aelodau etholedig ymhellach i fod yn effeithiol yn eu rolau gan adlewyrchu'r ymrwymiad i gynyddu amrywiaeth.