Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Rydym yn Gyngor sy’n pennu safonau uchelgeisiol i’n hunain, ein partneriaid a’n cymunedau. Deallwn sut mae ein hamgylchedd yn cyfrannu at les unigol, cymunedol a byd-eang ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd i sicrhau y gallwn fod yn falch o’r etifeddiaeth a adawn i genedlaethau’r dyfodol.
Mae’r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau ac yn darparu gwasanaethau’n effeithio ar yr amgylchedd. Mae’r amgylchedd yn un o’n hasedau pwysicaf ac mae dyletswydd arnom i’w ddiogelu a’i wella i genedlaethau’r dyfodol.
Mae’r gallu i ddefnyddio parciau a mannau gwyrdd yn lleol yn bwysig i bobl o bob oed ac mae cysylltiad anorfod rhwng iechyd a lles a'r amgylchedd. Credwn ei fod yn bwysig mwynhau’r ardal yr ydym yn byw ynddi a gwneud yn fawr o fyw a gweithio mewn ardal mor brydferth â’r Fro. Byddwn yn gweithredu i leihau ein heffaith negyddol ar yr amgylchedd ac i ddylanwadu ar eraill i’n dilyn ac ystyried sut y gallai’r hyn a wnânt effeithio ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.
Byddwn yn parhau i annog trigolion, ymwelwyr a busnesau i leihau gwastraff ac allyriadau carbon ac i ystyried sut y gall eu gweithredoedd hwy gyfrannu at lygredd. Rydym am i bobl allu mwynhau ein parciau, ein trefi, ein cefn gwlad a'n hardaloedd arfordirol yn ddiogel a pharchu'r ardal leol, ei thrigolion a'r bobl sy’n ymweld â hi.
Rydym yn cydnabod bod mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd a diogelu ein hamgylchedd a'n hadnoddau naturiol yn gyfrifoldeb ar y cyd ac mae Cynllun eleni’n canolbwyntio’n fwy ar sut y gallwn wneud y newidiadau mawr a bach i sicrhau ein bod yn gadael yr etifeddiaeth gywir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ymrwymiadau ein Cynllun Corfforaethol yw:
Gweithio i leihau allyriadau carbon y sefydliad i sero net cyn 2030 ac annog eraill i’n dilyn yn rhan o’r gwaith o leihau’r effaith negyddol y caiff ein gweithgareddau ar yr amgylchedd
Gweithio gyda grwpiau cymunedol a phartneriaid eraill a’u grymuso i gynnal cyfleusterau lleol gan gynnwys tai bach cyhoeddus, llyfrgelloedd, parciau, ardaloedd chwarae a chanolfannau cymunedol
Diogelu, cadw a, lle bo'n bosibl, gwella ein hamgylchedd naturiol ac adeiledig a’n treftadaeth ddiwylliannol
Gweithio gyda’r gymuned a phartneriaid i sicrhau bod yr amgylchedd lleol yn lân, yn ddeniadol ac yn cael ei reoli’n dda
Gweithio gyda’r gymuned, datblygwyr ac eraill i sicrhau bod datblygiadau newydd yn gynaliadwy a bod datblygwyr yn lliniaru eu heffeithiau, yn integreiddio â chymunedau lleol ac yn darparu’r seilwaith angenrheidiol
Darparu gwasanaethau rheoli gwastraff effeithiol a gweithio gyda’n trigolion, ein partneriaid a busnesau i leihau gwastraff a’i effaith ar yr amgylchedd
Lleihau llygredd gan gydnabod yr effaith andwyol y gallai ei gael ar yr amgylchedd ac ar les pobl
Gweithio i leihau effaith erydu, llifogydd a llygredd ar ein hardaloedd arfordirol a chyrsiau dŵr
Yn 2023-24 byddwn yn: