Cost of Living Support Icon

Prosiect Sero

Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i’r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Mae Prosiect Sero yn dwyn ynghyd yr ystod eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero-net erbyn 2030 ac annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol.

 

Project Zero Banner White

 

Hyb Prosiect Sero

Rydym wedi lansio Prosiect Sero newydd ar ein platfform cyfranogiad cyhoeddus Cymryd Rhan y Fro.

 

Gallwch ymweld â hyb Prosiect Sero i gael rhagor o wybodaeth am ein Cynllun Her Hinsawdd, prosiectau cyfredol i helpu i leihau allyriadau carbon y Cyngor a sut y gallwch gymryd rhan a gwneud newidiadau bach gartref i helpu i gyfyngu ar newid yn yr hinsawdd.

 

Mae'r hyb yn cynnwys pleidleisiau a byrddau syniadau er mwyn i chi allu cymryd rhan a dweud eich dweud ar bopeth sy’n ymwneud â Prosiect Sero. 

 

Ewch i Hyb Prosiect Sero