Cost of Living Support Icon

Strategaeth Leol Rheoli Perygl Llifogydd

Nid yw hi bob amser yn bosibl i atal llifogydd yn gyfan gwbl, ond mae hi’n bosibl i ystyried ffyrdd o reoli’r perygl a chloriannu tebygolrwydd a chanlyniadau llifogydd. 

 

Yn unol ag amodau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ac yn rhinwedd ei swyddogaeth fel y Prif Awdurdod Llifogydd Lleol (PALlLl), mae’n gyfrifoldeb ar Gyngor Bro Morgannwg i ddatblygu, cynnal a chadw a monitro strategaeth i reoli perygl rhag llifogydd ar lefel leol (‘Strategaeth Leol’). Wrth ddatblygu Strategaeth Leol, bydd y PALlLl yn cloriannu anghenion cymunedau, yr economi a’r amgylchedd.

 

Yn sgil llifogydd 2007, rhoddodd Llywodraeth y DU bwerau newydd i awdurdodau lleol i’w helpu i reoli peryglon lleol rhag llifogydd mewn modd mwy cydgysylltiedig. Mae amodau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr yn ei gwneud hi’n ofynnol i gynghorau arwain proses o gydlynu rheoli peryglon rhag llifogydd ar gyfer dŵr yr arwyneb a chyrsiau dŵr cyffredin yn eu hardal.

 

O fewn fframwaith y Strategaeth Leol, bydd gan gymunedau fwy o hawl i leisio barn wrth wneud penderfyniadau rheoli peryglon llifogydd yn lleol. O’u cyfuno â Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru, bydd y Strategaethau Lleol yn annog dulliau mwy effeithlon o reoli perygl drwy alluogi i berchnogion glannau afon, cymunedau, busnesau a’r sector gyhoeddus gydweithio’n agosach.

 

Mae’r Strategaeth Leol yn ystyried yr effeithiau posibl ar berygl llifogydd sy’n deillio o waith datblygu, yr isadeiledd cyfredol, gweithdrefnau cynnal a chadw, a sut orau i reoli’r peryglon.