Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Rydym yn Gyngor rhagweithiol sy’n gweithio mewn partneriaeth i wneud y mwyaf o les corfforol a meddyliol pobl i sicrhau eu bod yn ddiogel gartref ac yn y gymuned ac y gallant wneud dewisiadau sy’n cefnogi eu lles cyffredinol. Rydym yn Gyngor sy’n sicrhau y caiff pobl y cyngor, y gofal a’r cymorth angenrheidiol yn ôl yr angen.
Mae'r Amcan hwn yn dwyn ynghyd ystod o weithgarwch i sicrhau bod cyngor, gofal a chymorth ar gael pan fydd eu hangen ar bobl, bod pobl yn teimlo'n ddiogel a'n bod yn cefnogi iechyd a lles pobl.
Byddwn ni'n sicrhau bod pobl yn gallu cael cyngor a chymorth ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys, tai, bwyd, costau ynni, budd-daliadau a chyngor ariannol. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd atal ac ymyrraeth gynnar i wella a chynnal lles ac i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd. Byddwn yn adeiladu ar y trefniadau partneriaeth cryf sydd ar waith, yn enwedig drwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a'r Fro a chydnabod hefyd y rôl hanfodol sydd gan dai ar les pobol.
Bydd y Cyngor yn parhau i hyrwyddo dewisiadau actif ac iach drwy weithgareddau hamdden a diwylliannol ac i annog pobl i ystyried sut mae eu dewisiadau trafnidiaeth yn effeithio ar eu hiechyd a’r amgylchedd. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl a’u cadw’n ddiogel ac i roi cymorth i bobl o bob oed i gynnal eu lles corfforol a meddyliol.
Ymrwymiadau ein Cynllun Corfforaethol yw:
Annog pobl o bob oed i fod â ffyrdd actif ac iach o fyw sy’n hyrwyddo lles corfforol a meddyliol gwell
Rhoi mwy o gyfleoedd beicio a cherdded a datblygu ystod o opsiynau teithio i annog pobl i beidio â defnyddio eu ceir
Hyrwyddo gweithgareddau hamdden, celfyddydol a diwylliannol sy’n bodloni ystod eang o anghenion
Gweithio mewn partneriaeth i ddarparu mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor
Rhoi gofal a chymorth i blant a theuluoedd mewn angen sy’n adlewyrchu eu cryfderau a’u hamgylchiadau unigol
Rhoi gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i oedolion mewn angen
Gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau cymorth lles emosiynol ac iechyd meddwl amserol a phriodol
Cyflawni ein dyletswyddau diogelu i amddiffyn pobl rhag niwed
Gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu cymunedau cydlynol ac i hyrwyddo diogelwch cymunedol
Cadw pobl yn ddiogel drwy gynllunio cadarn a gwydn at argyfyngau a gwasanaethau rheoliadol sy’n diogelu’r cyhoedd, defnyddwyr a busnesau
Cynyddu nifer y tai hygyrch a fforddiadwy o safon uchel sydd ar gael drwy weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r angen am dai
Rhoi cyngor a chymorth tai er mwyn atal digartrefedd
Yn 2023-24 byddwn yn: